Yn ôl

Cafodd yr Antur amser anhygoel yn yr Eisteddfod eleni! Diolch i bawb a ddaeth i ymweld â’n stondin, a hefyd i bawb a gefnogodd ein gweithgareddau.

Roedd ein stondin yn brysur iawn, ac fe werthwyd llawer o’n crefftau cartref, yn ogystal â chynnyrch cartref, gan gynnwys cacennau, bara brith a chasis cyrens du. Roedd gan Feics Menai amrywiaeth o feiciau i’w harddangos, ac roedd dodrefn o’r Warws Werdd hefyd ar y stondin.

Roedd amserlen brysur o ddigwyddiadau trwy gydol yr wythnos.
Ar ddydd Llun, cawsom sesiwn pêl-droed cerdded yn yr ardal chwaraeon, a oedd yn llawer o hwyl – ac roedd cymaint o gôls, fe gollem ni gyfrif!

Ddydd Mawrth, cynhaliodd Beics Menai sesiwn beicio yn yr ardal chwaraeon. Dyma gyfle i arddangos ein fflyd o feics wedi’u haddasu ac i’r cyhoedd cael darganfod mwy am y gwasanaethau a gynigir ym Meics Menai.

Prynhawn ddydd Mawrth, cynhaliwyd sesiwn gyrfaoedd yn y stondin, a chyfle i ddarganfod fwy am waith yn y sector gofal.
Cawsom ymweliad arbennig iawn hefyd gan yr Archdderwydd, Geraint Lloyd Owen, a bu’r gweithwyr i gyd yn mwynhau cyfarfod ag ef.

Ar ddydd Mercher a dydd Iau, perfformiodd côr gallu cymysg Antur ar y stondin. Roedd y côr wedi derbyn hyfforddiant gan Annette Bryn Parri, a Gwenda Griffith wnaeth cyfeilio ar y piano. Tynnodd y côr dorf fawr, yn enwedig pan ddaeth Elin Fflur draw i ganu gyda nhw! Roedd hyn yn brofiad gwych i bawb.

Felly, roedd hi’n wythnos lwyddiannus iawn, a chawsom lawer o hwyl! Diolch yn fawr i bawb a ddaeth draw i ddweud helo.

 

Yn ôl