Yn ôl

Mae’r Nad20161031_133054olig yn agosáu, ac mae’r Antur yn brysur yn paratoi ar gyfer y digwyddiadau Nadoligaidd sydd ar y gweill.

Mae’r siop grefftau yn Waunfawr ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9yb-4yp, ac yn cynnig amrywiaeth eang o grefftau, anrhegion ac addurniadau. Bydd tîm Antur hefyd yn mynd â’u crefftau i Ffair Nadolig Ysgol Pendalar ar ddydd Iau, 01 o Ragfyr.360

O’r 14 o Dachwedd tan 15 o Ragfyr, bydd Caffi Blas y Waun yn cynnig ciniawau ‘Dolig tri-chwrs. Cewch fwyd cartref bendigedig mewn awyrgylch cynnes a chyfeillgar, i gyd am £17.95! Archebwch eich lle rŵan!

Bydd y caffi hefyd yn cynnal Brecwast gyda Siôn Corn rhwng 19-23 Rhagfyr, Oedolion £4.99, plant £3.99, sy’n cynnwys anrheg i bob plenty a chyfle i gyfarfod y dyn ei hun! Am fanylion, ffoniwch y caffi ar 01286 650937.

Ar 02 Rhagfyr, o 6.30yh, bydd safle Waunfawr hefyd yn cynnal ei Ffair Nadolig poblogaidd, Miri Siôn Corn. Bydd plant Ysgol Waunfawr yn ymuno â ni, yn ogystal â rhai gwesteion arbennig i ganu! Hefyd, bydd stondinau yn gwerthu anrhegion ac addurniadau Nadolig, gwin cynnes, mins peis, a chyfle i gwrdd â Siôn Corn!

Felly pam na fynd i ysbryd y Nadolig eleni ac ymuno mewn dathliadau Nadoligaidd yr Antur!

sam_5342

sam_5353

Yn ôl