Yn ôl

Cynhaliodd Antur Waunfawr digwyddiad rhanddeiliaid ar ran y Gronfa Loteri Fawr, Cymru yn ddiweddar, drwy glirio eu siop ddodrefn i ddarparu ar gyfer mwy na 70 o gynrychiolwyr.

Ymwelodd y Pwyllgor ddau o’r prosiectau lleol a ariennir gan y Gronfa Loteri Fawr, Cymru, sef GISDA a Beics Menai (rhan o deulu Antur Waunfawr). Cafodd hyn ei ddilyn gan gyfarfod a gynhaliwyd yn y Warws Werdd, lle wnaeth fynychwyr wrando ar gyflwyniadau a wnaed gan Mantell Gwynedd a Menter y Felin Uchaf. Wnaeth Syr Adrian Webb, Cadeirydd Pwyllgor Cymru dwyn yr achos i ben.

Mae’r Gronfa Loteri Fawr, Cymru wedi helpu i drawsnewid cymunedau yng Ngogledd Cymru, gan roi cyfleoedd i sefydliadau lleol gwrdd â’r heriau a wynebir o amgylch diweithdra ymhlith pobl ifanc, unigedd gwledig ac incwm isel.

Meddai Menna Jones, Prif Weithredwraig Antur Waunfawr: “Mae’r Loteri wedi bod yn bwysig iawn i ni – mae’r Antur wedi derbyn dau grant yn y gorffennol, ac mae’r ddau ohonynt wedi ein helpu i sefydlu canghennau pwysig i’r cwmni. Mae’r Warws Werdd, ein prosiect ailddefnyddio dodrefn a dillad, yn dathlu ei phen-blwydd yn 10 eleni ac, gyda chymorth y Loteri, mae ein hailgylchu a gwasanaeth llarpio cyfrinachol wedi mynd o nerth i nerth. ”

Dywedodd Cyfarwyddwr Cymru John Rose: “Mae ein cenhadaeth i ddod â gwelliannau i gymunedau a bywydau’r bobl fwyaf anghenus yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth, a dyna pam yr ydym wedi lansio ein fframwaith strategol newydd yn ddiweddar, sydd â’r nod o roi pobl a’u cymunedau yng Nghymru ar y blaen. ”

“Byddwn yn parhau i ddefnyddio arian o’r Loteri Genedlaethol i helpu pobl i ddatblygu eu hatebion eu hunain i’r problemau a’r cyfleoedd sy’n eu hwynebu, a byddwn hefyd yn parhau i weithio gyda sefydliadau gwych, megis Antur Waunfawr.”

Sir Adrian WebbDafydd Davies-Hughes, Menter y Felin Uchaf

Cynulleidfa

Yn ôl