Yn ôl

SAM_7330

Mae Cerdyn Eryri yn gerdyn plastig maint cerdyn credyd sydd yn cael ei dderbyn gan ddwsinau o fusnesau sydd yn cymryd rhan yn y diwydiannau twristiaeth, hamdden a lletygarwch yng Ngwynedd, Ynys Môn a Chonwy – yn cynnwys siop feics Antur Waunfawr, sef Beics Menai!

Unwaith y byddwch yn prynu Cerdyn Eryri, cewch ei gyflwyno yn siop Beics Menai (neu sôn am y cerdyn os ydych chi’n archebu o mlaen llaw dros y ffôn neu drwy e-bost), i elwa o ostyngiad unigryw neu bargen ‘Cerdyn Eryri.’

Mae Cerdyn Eryri yn cael ei gefnogi gan Croeso Cymru, Visit Britain ac Ymweld ag Eryri.

Am fwy o fanylion, a rhestr o gyfranogwyr eraill, ewch at: www.snowdoniapass.co.uk

 

 

 

 

Yn ôl