
Ar ôl misoedd o waith i adnewyddu’r caffi, mae Caffi Blas y Waun bellach wedi ail-agor i’r cyhoedd. Diolch i gefnogaeth grant gan Mantell Gwynedd, mae’r caffi wedi derbyn £10,975.37 o Gronfa’r Sector Gwirfoddol Gwynedd, wedi’i hariannu gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Yn awr, mae’r caffi yn gweini prydau maethlon cartref, cinio ysgaf, a the prynhawn i’r gymuned leol. Mae’r grant wedi ein galluogi i brynu offer newydd, darparu hyfforddiant i staff, ac adnewyddu’r gofod i greu amgylchedd cynnes a chroesawgar i bawb.
Rydym hefyd wedi cofrestru ar wefan “Croeso Cynnes”, gan wneud y caffi’n fwy hygyrch i ymwelwyr.
I archebu bwrdd neu gael rhagor o wybodaeth am ein bwyd a gwasanaethau, cysylltwch â:
Dewi Jones
dewi.jones@anturwaunfawr.cymru
01286 650721


