Mae prosiect newydd Beicio i Bawb yn cyflwyno amrywiaeth o sesiynau a gweithgareddau beicio fforddiadwy i drawstoriad o’r gymdeithas yng Ngwynedd gan gynnwys disgyblion ysgol, pobl ifanc difreintiedig, henoed, unigolion ag anableddau dysgu, grwpiau corfforaethol, a drwy bresgripsiwn cymunedol.

Gyda chefnogaeth gan Gronfa Ffyniant Cyffredin, prif nod y prosiect hwn yw hyrwyddo Iechyd a Llesiant a Theithio Llesol Cymru drwy wella mynediad i feicio hygyrch a fforddiadwy, gwella sgiliau, magu hyder ac annog pobol o bob oedran a gallu yn ein cymdeithas i feicio.
Felly cysylltwch â Beics Antur er mwyn archebu beic am bris rhesymol.

Sgiliau Beicio – Rydym yn gweithio gydag ysgolion cynradd ar draws Gwynedd i ddatblygu sgiliau beicio disgyblion, yn y sesiynau yma byddwch yn dysgu am sut i ofalu am eich beics, dysgu sut i reidio beic yn ddiogel a llawer mwy. I ddysgu mwy am ein sesiynau sgiliau beicio cliciwch yma

Galluogodd gefnogaeth ariannol gan Gronfa Ffyniant Cyffredin i ni archebu offer newydd i ddiogelu ein fflyd yn ogystal ag ehangu ein fflyd gyda beics ychwanegol, megis beics plant, e-feics a beics addasedig, gweler lluniau isod.

Dros y flwyddyn a hanner diwethaf, mae Beicio i Bawb wedi cael effaith drawsnewidiol ar draws Gwynedd, gan gyflwyno dros 450 o sesiynau beicio cynhwysol i fwy na 900 o gyfranogwyr o bob oed a gallu. Mae’r prosiect wedi llwyddo i hyrwyddo iechyd, hyder a chysylltiad cymdeithasol drwy wneud beicio’n hygyrch, pleserus a diogel – yn enwedig i blant, pobl hŷn ac unigolion ag anableddau dysgu. Mae ein hadroddiad gwerthuso’n amlygu rôl bwerus beicio wrth wella lles corfforol a meddyliol, ac yn tynnu sylw at ganlyniadau cadarnhaol prosiect sydd wedi’i wreiddio yn egwyddorion Teithio Llesol a chynhwysiant cymunedol.

Darllenwch yr adroddiad llawn drwy glicio yma