Yn ôl

Wnaeth tywydd annibynadwy’r gwanwyn ymddwyn dydd Sadwrn diwethaf, gan alluogi i bobl hen ac ifanc fwynhau prynhawn o feicio a hwyl yn yr haul yng Nghaernarfon!SAM_7120

Daeth ymwelwyr a phobl leol i lawr i’r Cei Llechi ar wahoddiad siop feiciau Beics Menai (rhan o deulu Antur Waunfawr), a chawsant gyfle i roi cynnig ar unrhyw un o’r beiciau oedd yn cael eu harddangos yn y maes parcio.

Trefnwyd y digwyddiad er mwyn cyflwyno fflyd addasol newydd y siop beiciau, sy’n cynnwys beic ochr yn ochr, beiciau tair olwyn tandem, a beiciau tair olwyn trydan a di-drydan ar gyfer plant ac oedolion, a hefyd i godi ymwybyddiaeth am eu prosiect ‘Beicio i Bawb’ sydd yn cael ei hariannu gan y Gronfa Cymunedau Arfordirol.

Sefydlwyd cyrsiau bach fel y gallai pobl brofi eu sgiliau a chael tipyn o hwyl, ac roedd staff o Feics Menai a Get Cycling yn Efrog wrth law i roi awgrymiadau a chyngor ynghylch bob dim beicio.

Cafwyd adloniant gan Cimera a’u beiciau un olwyn, ac roedd Awyr Las yno gyda’u masgot, Nel Del i hyrwyddo eu taith feicio elusennol sydd ar y gweill, sef Cylch Beicio. Roedd elusen ieuenctid Gisda hefyd wrth law i gynnig cynhaliaeth i’r beicwyr gyda’u fan fwyd, ‘Fan Sgram.’

SAM_7089

SAM_7071

Yn ôl