Mae ein Hadroddiad Gwerth Cymdeithasol diweddaraf yn dangos yr effaith gadarnhaol y mae Antur Waunfawr yn ei chael ar unigolion, teuluoedd a chymunedau ledled Gwynedd. Mae’r adroddiad yn amlygu’r gwerth cymdeithasol ac amgylcheddol rydym yn ei greu drwy ein gwaith bob dydd. Diolch yn fawr i Social Value Cymru am eu gwaith a’u cefnogaeth wrth lunio’r adroddiad. Edrychwch ar yr infographic isod i weld rhai o’n heffeithiau, neu cliciwch i ddarllen yr adroddiad llawn- Adroddiad Effaith Antur Waunfawr.

