Rydym yn chwilio am Reolwr Datblygu Busnes uchelgeisiol i ymuno â’n tîm am gyfnod blwyddyn (mamolaeth). Dyma gyfle gwych i arwain prosiectau, datblygu cyfleoedd masnachol a gwneud gwahaniaeth go iawn i’n mentrau cymunedol yn Waunfawr a Chaernarfon.
- Hyd Cytundeb: 1 flwyddyn (Hyd at Mawrth 2027)
- Oriau: 30 awr yr wythnos neu 37.5 awr yr wythnos
- Cyflog: £31,744 (pro rata)
- Dyddiad dechrau: 1 Mawrth 2026
- Cau ar gyfer ceisiadau: 18 Rhagfyr 2025
- Cyfweliadau: Wythnos dechrau- 5 Ionawr 2026
I weld y disgrifiad swydd a gwneud cais cliciwch yma
