Cydlynydd Manwerthu Warws Werdd

Lleoliad:    Cytundeb:   

Ymunwch â’n Tîm – Cydlynydd Manwerthu

Mae Warws Werdd yng Nghaernarfon yn chwilio am Gydlynydd Manwerthu i gefnogi’r Rheolwr Warws Werdd i redeg ein uned ailgylchu ac uwch-gylchu yng Nghibyn. Rydym yn gwerthu dodrefn, dillad a nwyddau cartref ail-law ac wedi’u uwch-gylchu, tra’n gweithio i leihau gwastraff i safleoedd tirlenwi a darparu profiad gwaith gwerthfawr i oedolion ag anableddau dysgu.

Prif Gyfrifoldebau:

  • Goruchwylio gweithrediadau dydd-i-ddydd y siop
  • Cydlynu stoc, arddangosfeydd, an adrannau dillad
  • Cefnogi yn weithredol oedolion ag anableddau dysgu a gwirfoddolwyr
  • Sicrhau gwasanaeth cwsmer rhagorol

Gofynion Hanfodol:

  • Rhygl yn y Gymraeg ac Saesneg, ar lafar ac ysgrifenedig
  • Trefnus, gyda sgiliau gweinyddol cryf
  • Sgiliau pobl gwych, yn gallu cefnogi an ysgogi’r tîm a’r cwsmeriaid
  • Brwdfrydig am gynaliadwyedd an chymuned

 

Lleoliad: Caernarfon

Oriau: 37.5 awr yr wythnos (contract parhaol, gyda gofyn I weithio rhai nosweithiau a phenwythnosau yn unol a’r rota)

Cyflog: £27,105 (gyda cynnydd o Ebrill 1af)

Dyddiad Cau: Chwefror 23

 

Gwnewch cais rwan i helpu rhoi ail-fywyd i eitemau ail-law tra’n cefnogi ein cymuned!

I ddarllen y disgrifiad swydd llawn, prif gyfrifoldebau a gofynion Cliciwch yma

Cliciwch yma i wneud cais am y swydd

Am fwy o wybodaeth neu i gael sgwrs anffurfiol am y rôl, cysylltwch â’n tîm Adnoddau Dynol ar swyddi@anturwaunfawr.cymru