Cynnwys “Nwyddau” ddeunyddiau. Cynnwys “Gwerthwr” ddarparwr/darparwr gwasanaeth/contractwr gwaith. Rhoir yr ystyr naturiol ehangaf posib i’r geiriau “gwasanaethau a gwaith” ac ar gyfer pwrpas yr Archeb hon, mae cyfeiriad at wasanaethau yn cynnwys cyfeiriad at waith. Golyga “Archeb” yr archeb a roddwyd gan Antur Waunfawr am y Nwyddau neu’r Gwasanaethau perthnasol.

  1. Rhaid nodi rhif yr archeb ar bob danfoneb, anfoneb a gohebiaeth.
  2. Ni wneir taliad am nwyddau na gwasanaethau oni bai a hyd nes y darperir y nwyddau neu’r gwasanaethau yn unol â thelerau’r Archeb ac y darperir anfoneb neu ble bo’n briodol y derbynnir anfoneb yn electronig drwy e-bost.
  3. Rhaid hysbysu am unrhyw amrywiad yn y pris ansawdd neu nifer o’i gymharu â’r hyn a nodir yn yr Archeb hon a dylid ei gytuno yn ysgrifenedig cyn y danfonir y nwyddau neu cyn yr ymgymerir â’r gwasanaeth – neu fel arall ni wneir y taliad.
  4. Ni wneir y taliad ond i’r Gwerthwr a enwir ar yr Archeb.
  5. Bydd y Gwerthwr yn defnyddio’i holl sgil, gofal ag ymroddiad dyledus wrth weithredu’r cytundeb.
  6. Rhaid i’r holl nwyddau a gyflenwir neu’r gwasanaethau yr ymgymerir â hwy gydymffurfio â safon uchaf Sefydliad Safonau Prydeinig (neu safon Ewropeaidd gyfwerth) ar gyfer y mathau hynny o nwyddau neu wasanaeth neu fel arall bydd y Gwerthwr yn hysbysu Antur Waunfawr nad oes safon berthnasol o’r fath ar gael ac yn y fath achos rhaid i’r nwyddau neu’r gwasanaethau gydymffurfio â ‘safon gorau’r diwydiant’ a pha un bynnag, bydd Antur Waunfawr yn cytuno hyn yn ysgrifenedig cyn derbyn yr Archeb.
  7. Mae’r Gwerthwr yn gwarantu bod y Nwyddau yn cydymffurfio â’r disgrifiad yn yr Archeb a bod y Nwyddau o ansawdd a deunydd da, na fydd cyflenwi nwyddau dan yr Archeb yn torri hawliau eiddo deallusol unrhyw drydydd parti a bydd yn rhaid i’r Gwerthwr indemnio Antur Waunfawr yn llawn yn erbyn torri unrhyw ran o’r cymal hwn.
  8. Ni chaiff y Gwerthwr aseinio buddion yr Archeb neu’r contract neu unrhyw ran ohono i unrhyw berson arall heb dderbyn caniatâd ysgrifenedig gan Antur Waunfawr o flaen llaw ac wrth gyflenwi’r gwasanaethau neu’r nwyddau ni wna unrhyw beth fyddai’n dwyn anfri ar Antur Waunfawr.
  9. Rhaid i Antur Waunfawr gadarnhau yn ysgrifenedig os bydd yn ildio’r hawl neu yn diwygio unrhyw un neu ragor o’r amodau hyn neu fel arall ni fydd dim effaith iddynt ac ni fydd y cyfryw ildiad hawl neu ddiwygiad ar un achlysur yn golygu y bydd yr ildiad hawl neu’r diwygiad hwnnw yn cael ei weithredu neu ei gytuno ar unrhyw achlysur arall.
  10. Ni fydd ‘telerau ac amodau safonol’ y Gwerthwr yn berthnasol i’r Archeb hon.
  11. Bydd y cytundeb yn cael ei reoli gan gyfraith Cymru a Lloegr ac mae’r partïon yn ymollwng i awdurdodaeth unigryw llysoedd Cymru a Lloegr.
  12. Rhaid i’r holl nwyddau gael eu danfon gyda’r cludiant wedi’i dalu i’r lleoliad a nodir ar wyneb yr Archeb neu fel arall fe allent gael eu gwrthod.
  13. Bydd y Gwerthwr yn cael derbynneb am yr holl nwyddau a ddanfonir ac yn darparu copi i Antur Waunfawr os gwneir cais amdano ac os na ellir gwneud hynny ni fydd yn rhaid i Antur Waunfawr dalu am y nwyddau hyd oni ellir darparu tystiolaeth fod y nwyddau wedi’u derbyn.
  14. Os bydd amser a/neu ddyddiad pryd y disgwylir derbyn yr Archeb wedi’i nodi arni, yna bydd amser a dyddiad pryd y’i derbynnir yn hanfodol i’r cytundeb. Os na fydd dyddiad derbyn wedi’i nodi ar yr Archeb, yna bydd y dyddiad derbyn yn 3.00pm ar y 14eg diwrnod yn dilyn dyddiad yr Archeb ac yn yr achos hwn bydd y dyddiad yn hanfodol i’r cytundeb. Yn yr achos olaf, os bydd y 14 eg diwrnod yn disgyn ar ddiwrnod pan fydd swyddfeydd Antur Waunfawr ar gau yna bydd y dyddiad derbyn ar y diwrnod canlynol pan fydd swyddfeydd Antur Waunfawr ar agor. Cyfrifoldeb y Gwerthwr yw darganfod pryd y mae swyddfeydd Antur Waunfawr ar agor.
  15. Bydd yr eiddo yn y nwyddau neu’r deunyddiau a ddanfonir mewn perthynas â’r Archeb hon yn trosglwyddo i Antur Waunfawr pan gânt eu derbyn. Er hynny, os gwneir taliad neu randaliad gyda’r Archeb hon neu cyn i’r Archeb gael ei danfon, bydd eiddo yn y nwyddau yn trosglwyddo i Antur Waunfawr pan wneir y cyfryw daliad. Unwaith y bydd yr eiddo wedi’i drosglwyddo i Antur Waunfawr ni fydd gan y Gwerthwr unrhyw hawlrwym na hawliau eraill i’r nwyddau neu’r deunyddiau.
  16. Ystyrir y bydd y prisiau a roddir gan y Gwerthwr yn cynnwys taliadau cludiant, pacio a dadlwytho oni bai y nodir yn glir yn y cytundeb ac a gytunwyd yn ysgrifenedig gan Antur Waunfawr.
  17. Os bydd y Gwerthwr angen i Antur Waunfawr ddychwelyd palet o ddeunydd pacio rhaid nodi hyn yn glir ar y ddanfoneb a’r anfoneb neu fel arall bydd rhydd hynt i Antur Waunfawr ei ailddefnyddio neu ei waredu fel yr ystyria’n briodol heb fod yn atebol i’r Gwerthwr.
  18. Rhaid i unrhyw nwyddau a ddanfonir nad ydynt yn cyfateb â’r disgrifiad a nodir ar yr Archeb gael eu symud o eiddo Antur Waunfawr gan y Gwerthwr ar draul y Gwerthwr o fewn 48 awr ar ôl iddynt gael eu danfon ac os bydd y Gwerthwr yn methu â gwneud hyn gall Antur Waunfawr drefnu i’r nwyddau gael eu dychwelyd ar draul y Gwerthwr. Os gwelir nad yw’r nwyddau’n cyfateb â’r disgrifiad ar yr Archeb pan geisir eu danfon, bydd yn rhaid symud y nwyddau oddi ar eiddo Antur Waunfawr ar unwaith ar draul y Gwerthwr.
  19. Bydd unrhyw golled neu ddifrod i’r nwyddau neu nam arnynt na chafodd ei achosi gan Antur Waunfawr yn cael ei unioni gan y Gwerthwr ar ei draul ei hun o fewn 14 diwrnod ar ôl derbyn hysbysiad ysgrifenedig ynghylch hyn gan Antur Waunfawr.
  20. Rhaid i’r Gwerthwr farcio unrhyw nwyddau peryglus yn glir gyda’r symbol rhyngwladol ar gyfer perygl gydag enw’r deunydd wedi’i nodi yn Saesneg. Yn ogystal, rhaid i’r fath nwyddau gael eu pacio, eu labelu a’u cludo yn unol â chyfraith y DU neu gytundebau cydnabyddedig rhyngwladol. Pan gaiff y fath nwyddau eu derbyn rhaid cynnwys gwybodaeth yn Saesneg ar y ffordd gywir i’w trin, eu storio a’u defnyddio. Drwy hyn mae’r Gwerthwr yn indemnio Antur Waunfawr yn erbyn colled neu ddifrod sy’n cael ei beri i Antur Waunfawr neu unrhyw un o’i weision neu asiantau os yw’r Gwerthwr yn methu cydymffurfio â’r amod hwn.
  21. Nid yw taliad neu randaliad am nwyddau gan Antur Waunfawr yn dangos bod Antur Waunfawr yn derbyn bod y nwyddau o’r un disgrifiad, nifer neu ansawdd â’r rhai a archebwyd ac ni fydd y fath daliadau yn tanseilio hawl Antur Waunfawr i wrthod y fath nwyddau ymhen amser i ddod.
  22. Rhaid i’r Gwerthwr ddarparu’r holl lafur, nwyddau, offer a chyfarpar angenrheidiol i ddarparu’r gwasanaeth.
  23. Cyfrifoldeb y Gwerthwr yw caffael cadarnhad ysgrifenedig am unrhyw gyfarwyddiadau ar lafar am y gwaith.
  24. Rhaid i’r Gwerthwr ddarparu’r gwasanaeth yn ystod oriau gwaith arferol yn ystod y dydd.
  25. Rhaid i unrhyw ddiffygion sy’n bodoli neu’n ymddangos o fewn 12 mis o’r dyddiad y cwblheir y gwasanaeth gael eu hunioni gan y Gwerthwr ar ei draul ef ei hun.
  26. Rhaid i’r Gwerthwr gadw cofnodion digonol a chywir o’r gwasanaeth a gyflawnwyd gan gynnwys yr amser a gymerwyd a rhaid eu cyflwyno i Antur Waunfawr ar ddiwedd pob wythnos yr ymgymerir â’r gwasanaeth neu unrhyw gyfnod amser arall y cytunwyd arno yn ysgrifenedig.
  27. Rhaid i’r Gwerthwr ddarparu tystiolaeth o’i statws treth pan ofynnir amdano.
  28. Rhaid i’r Gwerthwr gadw’r gweithle yn lân a threfnus a bydd yn rhaid iddo symud unrhyw nwyddau sydd yn weddill neu unrhyw wastraff yn rheolaidd.
  29. Ystyrir y bydd y prisiau a ddyfynnir gan y Gwerthwr yn cynnwys holl gostau teithio a chostau cynhaliaeth oni chytunir fel arall.
  30. Rhaid i’r Gwerthwr gael yr holl yswiriant perthnasol er mwyn darparu’r gwasanaethau.