Cyfle cyffroes i arwain ar brosiect newydd beicio a llesiant Beics Antur ar gyfer unigolion Antur Waunfawr a’r cyhoedd.
Mae Beics Antur, Porth yr Aur, Caernarfon yn ganolfan beicio a llesiant newydd sbon yn ganol y dref.
Byddwch yn aelod allweddol o dîm sy’n sicrhau bod y gwasanaethau yn ymateb i ofynion amrywiol yr unigolion a’r teuluoedd/gofalwyr. Disgwylir i’r deilydd gael perthynas dda, dealltwriaeth, a’r dymuniad i weithio ochr yn ochr â phobl gydag anabledd, a chyda ymrwymiad i’w galluogi i ddatblygu eu potensial i ymgymryd â’r gwaith. Disgwylir yr un berthynas hefyd gydag eraill fel y di-waith, pobl ifanc dan hyfforddiant, gwirfoddolwyr ac eraill a all o dro i dro fod yn rhan o’r busnes.
Disgwylir i’r deilydd fod a diddordeb byw mewn beicio, cynaladwyaeth a’r amgylchedd.
Disgwylir i’r person a benodir fod yn barod i fynychu unrhyw gyrsiau hyfforddiant a welir yn fanteisiol i ddatblygiad y busnes.
Swydd i weithio 150 awr y mis (Llun – Sul)
Cytundeb – 2 flynedd yn y lle cyntaf gyda phosibilrwydd am estyniad
Cyflog – £21,727 y flwyddyn
Lleoliad – Caernarfon
Dyddiad Cau – Dydd Llun 18 Ionawr 2021
Swydd ddisgrifiad Uwch Swyddog Beics Antur
Taflen Amodau Cyflogaeth – Uwch Swyddog Beics Antur
Nodyn Preifatrwydd Ymgeisydd Swydd