Byddwch yn aelod allweddol o dîm sy’n sicrhau bod y gwasanaethau yn ymateb i ofynion amrywiol yr unigolion a’r teuluoedd/gofalwyr. Mae’n hanfodol i’r holl ymgeiswyr fod yn awyddus i weithio efo pobl ag anabledd dysgu mewn rôl sy’n galluogi’r unigolyn i fyw bywyd i’w llawn botensial. Bydd deilydd y swyddi yn cefnogi’r unigolion sy’n derbyn y gwasanaeth i ddatblygu eu sgiliau byw, gwaith, hamdden a chymdeithasol. Mae’r Antur yn gefnogol iawn i ddatblygu staff, ac yn sicrhau Hyfforddiant cynhwysfawr o safon, a chefnogaeth o fewn y swydd gan Reolwr profiadol.
Bydd yn ofynnol i’r unigolion llwyddiannus gael trwydded yrru lawn ac yn berchen car. Mae’r penodiad yn amodol i archwiliad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Cyflog: £17,004 y flwyddyn (pro rata) £8.72 yr awr i weithio 140 awr y mis (dydd Llun i ddydd Sul)
Lleoliad: Waunfawr a/neu Caernarfon a/neu Penygroes
Dyddiad cau: 21 Ionawr 2021
Nodyn Preifatrwydd Ymgeisydd Swydd
Swydd Ddisgrifiad 140 awr – Dydd
Taflen Amodau Cyflogaeth – 140 awr Dydd