Ein gwasanaethau

  • Mae Llarpio Antur yn darparu gwasanaeth llarpio cyfrinachol i fusnesau ac unigolion yng Ngwynedd, Ynys Môn ac ar hyd Arfordir Gogledd Cymru.
  • Rydym yn arbenigo mewn llarpio papur cyfrinachol, a hefyd llarpio tapiau a disgiau.
  • Rydym yn dinistrio gwastraff cyfrinachol i fewn i stribedi 10mm.
  • Rydym hefyd yn ailgylchu papurau swyddfa gyffredinol sydd ddim yn gyfrinachol.

Ein harbenigedd

  • Rydym yn gwmni arbenigol gyda 20 mlynedd o brofiad yn y diwydiant ailgylchu.
  • Rydym yn cynnig gwasanaeth Llarpio cyfrinachol oddi ar safle diogel, gyda chamerâu CCTV yn gwarchod y safle.
  • Cyflawnir yr holl waith gan ein staff profiadol, a archwiliwyd gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol.
  • Mae’r deunydd yn mynd yn syth i fyrnwr ar ôl bod yn ein llarpiwr diwydiannol cyn mynd i’r felin ar gyfer ei droi’n bapur tusw.

Gwasanaeth teilwredig a phwrpasol

  • Rydym yn darparu gwasanaeth wedi teilwra i’ch anghenion chi, a gallwn gasglu un sach neu gannoedd o sachau gennych.
  • Casgliadau o swyddfeydd neu gartrefi, a dim lleiafswm ar gyfer y gwasanaeth casglu
  • Casgliadau un-tro neu reolaidd – rhowch ganiad i ni!
  • Gallwn ddarparu tystysgrif llarpio ar gyfer eich cofnodion.

Cefnogwch fenter gymdeithasol leol

  • Mae Llarpio Antur yn rhan o deulu Antur Waunfawr, sy’n darparu cyfleoedd gwaith i oedolion gydag anableddau dysgu.
  • Wrth ddefnyddio Llarpio Antur, rydych chi’n cynnal swyddi lleol, yn lleihau ôl-troed carbon.
  • Rydym yn falch i ddarparu gwasanaeth dwyieithog gyda staff sy’n siarad Cymraeg.
  • Gallwch chi fod yn sicr bod eich dogfennau yn cael eu trin gan arbenigwyr yn y maes.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Llarpio Antur, safle Caergylchu, Stad Ddiwydiannol Cibyn, Caernarfon, LL55 2BD ar 01286 669 330.