Rhestr Prisiau Gweithdy

Gwasanaeth Sylfaenol: £30

  • Archwiliad diogelwch llawn
  • Gwirio ac addasu gerau
  • Gwirio ac addasu breciau
  • Gwirio cadwyn a gyriant cadwyn am draul, ac iro cadwyn
  • Gwirio olwynion ac archwilio teiars am draul, ac addasu pwysedd yn unol â hynny

(Nid yw unrhyw ddarnau ychwanegol sydd eu hangen yn cael eu cynnwys yn y pris)

Gwasanaeth i Gymudwyr: £50

Popeth a gynhwysir yn y gwasanaeth sylfaenol a mwy –

  • Olwynion
  • Gwirio both a chamog olwyn am ddifrod a thraul
  • Gwirio berynnau am lacrwydd ac addasu yn unol â hynny
  • Gwirio olwynion
  • Gwirio penset am lacrwydd ac addasu yn unol â hynny
  • Gwirio braced gwaelod am symudiad rhydd, ac addasu yn ôl yr angen
  • Tynnu gyriant, glanhau, gwirio cadwyn a chasét am draul, a’u hiro
  • Addasu gosodiad y beic i weddu’r i’r beiciwr

(Nid yw unrhyw ddarnau ychwanegol sydd eu hangen yn cael eu cynnwys yn y pris)

Gwasanaeth Elitaidd: £80

Popeth yn y gwasanaeth sylfaenol a chymudo a mwy –

  • Glanhau beic a chydrannau’n llwyr
  • Tynnu, glanhau ac iro’r braced gwaelod
  • Tynnu, glanhau ac iro’r penset
  • Ceblau gêr newydd (darnau’n gynwysedig)
  • Ceblau brêc newydd (darnau’n gynwysedig)

(Nid yw unrhyw ddarnau ychwanegol sydd eu hangen yn cael eu cynnwys yn y pris, oni bai am y rhai sydd wedi eu nodi)

Gwaith Arall:

  • Adeiladu Beic (sydd heb gael ei brynu yn Beics Antur) – £25
  • Gwaedu brêc hydrolig  –  £15 y brêc (yn cynnwys hylif)
  • Gosod penset – £15
  • Gwirio olwynion – £12.50 yr olwyn (ynghyd â £1 am bob sbocsen newydd)
  • Cyweirio gêr/brêc/newid cebl – £6 yr un neu £10 y pâr (ceblau heb eu cynnwys os oes angen)
  • Gosod tâp bar – £10 (tâp heb ei gynnwys)
  • Gwasanaethu both olwyn –  £10
  • Gwasanaethu/amnewid braced gwaelod – £10
  • Newid cadwyn – £5
  • Newid pad brêc – £4 y brêc
  • Newid tiwb mewnol – £2 (pan mae’r  tiwb mewnol yn cael ei brynu ym Meics Antur)

(Nid yw unrhyw ddarnau ychwanegol sydd eu hangen yn cael eu cynnwys yn y pris,  oni bai am y rhai sydd wedi eu nodi)

Am waith arall heb ei nodi uchod, codir £25 yr awr (pro rata)

Ansicr o’r hyn yr ydych ei angen? Galwch mewn am goffi a sgwrs anffurfiol gyda’r tîm … byddem yn fwy na pharod i helpu!

Y Print Bach!

Mae ein lle yn y gweithdy yn gyfyngedig felly mae’n rhaid i feiciau gael ei gasglu o fewn tri ddiwrnod o gwblhau’r gwaith neu, fel arall, bydd ffi casglu hwyr o £5 y dydd yn cael ei godi.

Nid ydym yn gwasanaethu beiciau dros y penwythnos (oni bai eich bod wedi trefnu ymlaen llaw).

Oherwydd galwadau cynyddol ar ein gweithdy, bydd amserau aros yn amrywio yn ystod y Pasg a misoedd yr haf.

Gall beiciau trydan/beiciau wedi’i hanelu â both creu costau llafur ychwanegol.

Beic