Bryn Pistyll - gerddiMae’r caffi, gerddi a’r parc saith erw yn agored trwy’r flwyddyn i’r cyhoedd gyda lle chwarae i blant gyda lle parcio cyfleus a diogel.

Lle braf i ddod am dro hamddenol gyda golygfeydd godidog ac amrywiaeth o flodau a choed yn y gerddi. Plannwyd 2,000 o goed gan unigolion sy’n derbyn gwasanaeth gan yr Antur a phlant Ysgol Waunfawr a chreuwyd pyllau ar gyfer bywyd gwyllt.

Gallwch defnyddio’r amrywiaeth o lwybrau hygyrch sy’n mynd o amgylch y parc natur.

Mae gennym hefyd brosiect o gynnig rhandiroedd i bobl leol, ac mae yna brysurdeb mawr yn y rhan yma o’r parc. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â dewi.jones@anturwaunfawr.cymru