Yn ôl


 

Yn gynharach yn y mis, cafwyd sesiwn ddiddorol a addysgiadol yn trafod diogelwch yn y gymuned gyda Heddlu Gogledd Cymru – Caernarfon a Cyffiniau. Daeth Swyddogion Cefnogi Cymuned Caernarfon, Jamie Aston a William Leon-Portillo, draw i’r Antur er mwyn rhoi cymorth ar sut i gadw’n ddiogel yn y gwaith a’r cartref.

Daeth yr swyddogion â bocs Offer Gwarchod Personol [PPE] i bawb rhoi tro ar eu gwisgo, a gadawyd i bawb gael golwg agosach ar gerbyd ymateb yr heddlu.

Dywedodd Richard Cashman, Cydlynydd Iechyd a Lles yr Antur: “Hoffwn estyn fy niolch  i’r tîm am ddod allan a rhoi sgwrs wirioneddol ddiddorol. Gallaf ddweud yn barod fod pawb wedi mabwysiadu beth a ddywedwyd.”

 

 

Yn ôl