Wythnos BlasuMae’r Antur yn gwneud pob ymdrech i ddarparu cyfleoedd pontio pwysig ar gyfer oedolion ifanc sydd ag anawsterau dysgu, er mwyn gwneud eu trosglwyddiad o blentyndod i fod yn oedolyn mor llyfn â phosibl. Dros y blynyddoedd, mae’r Antur wedi creu cysylltiadau cryf gydag ysgolion arbennig lleol a phartneriaethau gyda cholegau lleol, sydd hefyd yn helpu’r broses.

Ymysg ein rhaglen profiadau gwaith yn flynyddol cynhelir Wythnos Blasu ar gyfer disgyblion Ysgol Pendalar, Ysgol Hafod Lon, Coleg Menai ac unigolion sydd yn cael eu cyfeirio drwy Gyrfa Cymru.

Mae’r rhaglen yma yn rhedeg ers blynyddoedd ac wedi profi ei hun yn llwyddiannus wrth gyflwyno disgyblion i’r byd lleoliadau gwaith. Gallwn ddarparu lleoliad profiad gwaith am ddiwrnod yr wythnos dros 12 mis i unigolion penodol mewn cydweithrediad â’n partneriaid.

Wythnos Blasu