Yn ôl

Dylai Beicio fod yn hygyrch i bawb – dyna oedd brif nod diwrnod agored seiclo addasol a drefnwyd gan Antur Waunfawr wythnos diwethaf, ochr yn ochr â’r Bartneriaeth Awyr Agored, Chwaraeon Anabledd Cymru, Cyngor Gwynedd a Derwen – Tîm Integredig Plant Anabl .


Cynhelir y digwyddiad yn Cartio Dan Do Redline yng Nghaernarfon, ac mi roedd o’n gyfle i oedolion a phlant ag anableddau dysgu neu gorfforol i reidio amrywiaeth o feiciau addasol o amgylch trac cartio pwrpasol Redline. Roedd hefyd yn gyfle i gael

mwy o wybodaeth am gyfleoedd beicio addasol yn yr ardal, ac i recriwtio gwirfoddolwyr ar gyfer y prosiect.

Darperir Antur Waunfawr amrywiaeth o feiciau addasol o’u siop feiciau Beics Menai, gan gynnwys beiciau ochr wrth ochr, beiciau tair olwyn tandem, a beiciau tair olwyn trydan a di-trydan. Roedd gan yr Hwb Beicio Hygyrch Gwynedd hefyd amrywiaeth o feiciau addasol yn y digwyddiad, gan gynnwys beic cludwr cadair olwyn a  beiciau plant.

Gwahoddwyd disgyblion o ysgolion anghenion arbennig Ysgol Hafod Lon ac Ysgol Pendalar i roi cynnig ar y beiciau, yn ogystal â defnyddwyr gwasanaeth sy’n derbyn cymorth gan Anheddau Cyf. Hefyd, wrth law i gynnig hyfforddiant a chyngor ar y diwrnod oedd Tim Matthews, Swyddog Datblygu Reidwyr Ifanc o Feicio Cymru.
Cafodd y diwrnod agored ei ariannu gan brosiect ‘Sgiliau Antur’ Antur Waunfawr, wedi ei ariannu gan y Gronfa Gofal Canolradd – Grant Anableddau Dysgu ac Anghenion Cymhleth gan Lywodraeth Cymru, mewn partneriaeth ag Asiantaeth Gwella’r Gwasanaethau Cymdeithasol Gogledd Cy

mru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Dywedodd Huw Davies, dirprwy brif weithredwr yn Antur Waunfawr: “Nod y prosiect ‘Sgiliau Antur’ yw hybu iechyd a lles ac i recriwtio gwirfoddolwyr. Mae beicio ac iechyd a ffitrwydd yn agwedd bwysig o’r prosiect, ac rydym yn ddiolchgar iawn i staff Redline am roi’r cyfle i ddefnyddio’r beiciau addasol ar eu trac cartio dan do ni.

“Roedd y diwrnod agored yn llwyddiant mawr, a hoffem ddiolch i’r Bartneriaeth Awyr Agored a Derwen am eu cymorth wrth drefnu’r digwyddiad hwn. Drwy weithio gyda’n gilydd i hyrwyddo’r prosiect beicio addasol, gallwn ysbrydoli a galluogi pobl anabl yng Ngwynedd i fwynhau beicio hygyrch. “

Yn ôl