Yn ôl

Mae’r Antur yn cymryd diogelwch ein hunigolion o ddifri, a byddwn yn gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru i hyrwyddo diogelwch yn y gymuned.

Mae gennym dwy sesiwn wedi eu trefnu gyda PCSO Jamie Aston, a fydd yn dod i siarad gyda ni am: y gwahaniaeth rhwng argyfwng a di-argyfwng; pwy i’w ffonio, 999 neu 101?; diogelwch wrth deithio ar fws; sut i gadw’n ddiogel o fewn ac allan o’n cymuned, a siarad â phobl ddieithr.

Bydd y sesiynau yn cael eu cynnal ar ddydd Iau 17 Awst, 12yp-1yp yn y Warws Werdd, ac 1yp-2yp ym Mryn Pistyll, Waunfawr.

 

Yn ôl