Yn ôl

Mae’n gyfnod cyffrous iawn ar brif safle Antur yn Waunfawr ar hyn o bryd, gyda gwaith yn dechrau ar ddatblygu cae chwarae newydd, cynhwysol.

Mae ein caffi, gerddi a pharc saith erw eisoes ar agor i’r cyhoedd drwy gydol y flwyddyn, ac mae maes parcio diogel a hwylus ar y safle a llawer o lwybrau hygyrch i helpu pobl i archwilio eu hamgylchedd. Yn y gerddi, mae yna amrywiaeth fawr o goed a phlanhigion, ynghyd â phyllau a grëwyd yn benodol i annog bywyd gwyllt lleol.

Yn awr, a diolch i haelioni’r Wolfson Foundation yn Llundain, bydd yr Antur yn gwella’r parc ymhellach drwy ychwanegu offer chwarae arbenigol sy’n darparu ar gyfer unigolion o bob gallu.

Dywedodd y Prif Weithredwr Menna Jones: “Rydym yn falch iawn ein bod yn gallu symud ymlaen gyda’r prosiect hwn, ac yn hynod ddiolchgar i’r Wolfson Foundation am eu cefnogaeth. Gweledigaeth Antur yw creu lle sydd yn wirioneddol gynhwysol, a bydd y cyfarpar hwn yn sicrhau y gall plant, pobl ifanc ac oedolion o bob gallu cymdeithasu a chwarae gyda’i gilydd, gan ddatblygu mwy o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o anghenion pobl eraill. Mae’n mynd i fod yn ychwanegiad gwych at ein prif safle, ac ni allwn ddiolch digon iddynt!”

Ychwanegodd Paul Ramsbottom, Prif Weithredwr Sefydliad Wolfson: “Dylai pobl ifanc ag anableddau yn elwa ar yr un cyfleoedd â’u cyfoedion, gan gynnwys y mwynhad a phrofiad ardaloedd chwarae. Rydym yn falch iawn i gefnogi’r amgylchedd chwarae cynhwysol yn Waunfawr, ac yn wir brosiect gwych arall yng Ngwynedd, lle’r ydym hefyd wedi gwneud grantiau diweddar i Storiel a Phrifysgol Bangor.”

SAM_8152

SAMSUNG CSC

 

SAM_8154

SAM_8150

Yn ôl