Yn ôl

 

 

 

 

 

 

Mae’n amser prysur iawn yn yr Antur, gyda phawb yn brysur yn paratoi ar gyfer y

digwyddiadau Nadoligaidd sydd ar y gweill.

Mae’r siop grefftau yn Waunfawr ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9:30yb-4yp, ac yn cynnig amrywiaeth eang o grefftau, anrhegion ac addurniadau. Bydd tîm Antur hefyd yn mynd â’u crefftau i Ffair Nadolig Ysgol Pendalar ar nos Fawrth 28 Tachwedd

Mae Caffi Blas y Waun yn cynnig ciniawau ‘Dolig tri-chwrs. Cewch fwyd cartref bendigedig mewn awyrgylch cynnes a chyfeillgar, i gyd am £15.95! Archebwch eich lle rŵan wrth alw 01286 650937!

Ar 01 Rhagfyr, o 6.00yh, bydd safle Waunfawr hefyd yn cynnal ein Ffair Nadolig poblogaidd, Miri Siôn Corn. Bydd plant Ysgol Waunfawr yn ymuno â ni, yn ogystal â stondinau yn gwerthu anrhegion ac addurniadau Nadolig, gwin cynnes, mins peis, a chyfle i gwrdd â Siôn Corn!

Felly pam na fynd i ysbryd y Nadolig eleni ac ymuno mewn dathliadau Nadoligaidd yr Antur!

Yn ôl