Yn ôl

Mae Antur Waunfawr yn dathlu llwyddiant prosiect tair mis sydd wedi hyrwyddo iechyd a llesiant a recriwtio gwirfoddolwyr.

Cafodd y prosiect, a elwir yn ‘Sgiliau Antur’, ei ariannu gan Y Gronfa Gofal Canolradd – Grant Anableddau Dysgu ac Anghenion Cymhleth gan Lywodraeth Cymru, mewn partneriaeth ag Asiantaeth Gwella’r Gwasanaethau Cymdeithasol Gogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Dros y tair mis diwethaf, cafwyd  sesiynau arbenigol mewn pedwar maes gwahanol – gwaith llaw a chelf a chrefft; cerdded a ffitrwydd; beicio; a thyfu llysiau a bwyta’n iach.

Roedd y sesiynau’n cynnwys sesiynau beicio addasol yn Redline Karting; taith gerdded dywysedig o amgylch Caernarfon gydag Emrys Llewelyn o ‘Tyd am Dro, Co’; taith feicio natur ar hyd Lôn Eifion a arweinir gan Duncan Brown; sesiynau gwaith coed gyda gwirfoddolwyr ‘Men’s

Sheds’ Age Cymru Gwynedd a Môn; codi ‘poly-tunnel’ ar gyfer tyfu llysiau a ffrwythau, a chyfle i gwrdd â Wil y ci achub a’i hyfforddwr, Geraint Strello.

Mae’r prosiect hefyd wedi bod yn gyfle i weithio’n agos gyda Chlwb Pêl-droed Tref Caernarfon, ac mae cleientiaid yr Antur wedi mynychu dau o gemau cartref y tîm yn Yr Oval, a hefyd wedi bod yn mwynhau sesiynau pêl-droed cerdded gyda Nathan Craig, sy’n rhedeg prosiect ‘Pêl Droed yn y Gymuned’ y clwb.

Dywedodd Menna Jones, Prif Weithredwraig: “Mi wnaeth yr arian a derbyniwyd ar gyfer y prosiect yma ein galluogi i beilota nifer o syniadau prosiect newydd er mwyn ehangu profiadau pobl ag anableddau dysgu ac annog gwirfoddolwyr lleol i’n helpu. Cyflawnwyd nifer o brosiectau iechyd a lles a mwynhad. Edrychwn ymlaen at ddatblygu prosiectau cyffelyb i’r dyfodol.”

Yn ôl