Yn ôl

Mae’r Antur yn edrych ‘mlaen cael stondin yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Modedern, rhwng Awst 5-12.  Bydd gennym 3 stondin ar y maes (rhifau 301-303), felly dewch draw i ddweud helo!

Bydd cyfle i chi cael paned am ddim, a bydd llawer o gynnyrch cartref ar werth yn cynnwys cacennau, bara brith, jams, siytnis a cassis cyrens duon. Bydd hefyd amrywiaeth mawr o grefftau cartref, i gyd wedi ei wneud gan unigolion yn yr Antur, a hefyd phlanwyr llechi i archebu, wedi ei wneud â llaw.

Bydd Beics Menai hefyd efo amrywiaeth o feics i arddangos, a bydd dodrefn Warws Werdd ar y stondin.

Mae hefyd amserlen prysur o ddigwyddiadau trwy’r wythnos:

 

Dydd Llun, 07 Awst

2:30-3:15yp: Pel-droed cerdded ar y maes chwaraeon, gyda Osian Roberts.

Dydd Mawrth, 08 Awst

1:30-2:30: Beicio addasedig ar y maes chwaraeon

1-4yp: Prynhawn gyrfaeodd

3yp: Yr Archdderwydd Geraint Lloyd Owen yn ymweld

Dydd Mercher, 09 Awst

1:30-2:30: Sesiwn canu

Dydd Iau, 10 Awst

11:30-12:30: Sesiwn canu

 

Croeso cynnes i bawb – edrych ymlaen gweld chi yna!

Yn ôl