Partneriaeth Ailddefnyddio GwyneddCaergylchu - PAG

Prosiect cydweithredol rhwng Cyngor Gwynedd, Antur Waunfawr a Seren yw Partneriaeth Ailddefnyddio Gwynedd, a’r bwriad yw annog cartrefi a sefydliadu ledled y sir i ailddefnyddio eitemau swmpus diangen er mwyn eu pasio ymlaen i rhywun arall sydd ei angen.

Yn ogystal â lleihau gwastraff tirlenwi, mae’r bartneriaeth arloesol hon hefyd yn helpu i gefnogi ein Mentrau Cymdeithasol lleol drwy roi eitemau iddynt y gellir eu newid a’u hailwampio, cyn eu gwerthu eto, a thrwy hynny greu cyfleoedd gwaith i bobl ag anableddau dysgu.

Manteision y Gwasanaeth

Ecogyfeillgar

Mae’r gwasanaeth yr ydym yn ei gynnig yn helpu i wneud gwahaniaeth dramatig i’r amgylchedd lle byddai gwastraff swmpus o’r fath fel arall yn cael ei gladdu, ei losgi neu ei ddinistrio.

Cynnig Cyfle

Nid yn unig mae eich gwastraff yn helpu i ddiogelu’r amgylchedd ond hefyd mae’n rhoi cyfleoedd gwaith a hyfforddiant i bobl ag anableddau dysgu.

Darparu eitemau ailddefnydd am brisiau rhesymol iawn

Yn aml mae’r gost o brynu eitemau newydd yn ein digalonni ac yn broses gostus iawn. Wrth ailddefnyddio gwastraff swmpus, mae’n golygu y gall eraill elwa drwy gael eitemau o ansawdd am brisiau llawer is.

Beth sy’n bosibl ei ailddefnyddio?

• Dodrefn swyddfa
• Cyfarpar Trydanol ac Offer TG
• Dodrefn a Pheiriannau Gardd
• Tuniau paent
• Teganau mawr
• Beiciau
• Bric-a-brac

Unrhyw beth arall sydd angen i mi ei wybod?

Bydd cynhwysydd penodol ym mhob un o’r 8 depo ailgylchu sydd gan y Cyngor yn Llandygái, Caernarfon, Pwllheli, Garndolbenmaen, Dolgellau, Harlech, Bala, a Blaenau Ffestiniog. Bydd y rhain wedi eu nodi yn glir ag arwyddion Partneriaeth Ailddefnyddio Gwynedd.

Os yw’r eitemau yn rhy fawr, ffoniwch 01766 771000, neu 01286 669330 ar gyfer gogledd Gwynedd a 01766 832378 ar gyfer de Gwynedd, a gallwn drefnu bod rhywun yn dod i’w casglu, er mae’n bosib fydd cost ychwanegol i hyn.