|
|
Cyfleon Addysg Ailgylchu :
01286 679 872
Mae'r Tîm Ailgylchu wedi ymrwymo i gynyddu ffigyrau ailgylchu yng Ngwynedd. Er mwyn codi ymwybyddiaeth rydym yn cynnig cynnal sgyrsiau mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yn ogystal â chymdeithasau a grwpiau. Gall unrhyw ysgol, mudiad neu gymdeithas wneud cais i gael sgwrs gan aelod o'r Tim, gall hyn fod yn ystod y dydd neu gyda'r nos. Bydd swyddog yn ymweld â chi i roi sgwrs gyffredinol am ailgylchu ac i ateb unrhyw gwestiynau. Gellir trefnu hefyd i grwpiau ymweld â Chanolfan Ailgylchu Caergylchu am daith dywys o gwmpas y safle a sgwrs yn yr ystafell gyfarfod yno. Mae Gwenllian Roberts, Swyddog Ailgylchu y Cyngor, gyda cefnogaeth Dafydd Jones o Antur Waunfawr, yn tywys ysgolion a grwpiau eraill o gwmpas y ganolfan. Yn ddiweddar bu 30 o ddisgyblion blwyddyn 3 a 4 o Ysgol Llandygai yn y ganolfan yn dysgu am ailgylchu. Roedd Gwenllian eisoes wedi bod yn yr ysgol yn son am drefniadau ailgylchu yng Ngwynedd wrth y plant. I gysylltu â'r Tîm Ailgylchu i drefnu sgwrs neu daith ffoniwch y Ddesg
Gymorth Gwastraff ac Ailgylchu: (01286) 679872 neu e-bostiwch:
ailgylchu@gwynedd.gov.uk |
|
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
|