Gwybodaeth
Adref
Cyswllt
Y Cwmni
Hanes
Bryn Pistyll
Lluniau
Gweithgareddau
Rhoddion Dodrefn
Gwasanaethau
Ailgylchu
Dodrefn
Clirio Swyddfeudd
Clirio Dodrefn Tai
Cefnogaeth
Arlwyo
Siop Bryn Pistyll
Llogi Ystafell
Ymgynghoriaeth

 

 
English

Siop Bryn Pistyll: 01286 650 721

Agored  : Dydd Llun i  Ddydd Gwener = 9yb i 4yh

  • Lleoliad parcio hwylus.

  • Gwasaneth danfon lleol ac drwy bost ar gael.

  • canoedd o eitmau unigryw ar werth.

Siop Bryn Pistyll  - Dyma le cychwynnwyd gwaith enwog Antur Waunfawr yr holl flynyddoedd yn ôl. Erbyn heddiw mae'r siop wedi datblygu i fod yn rhan allweddol o waith yr Antur. Yma mae holl waith crefft gweithwyr yr Antur yn cael ei arddangos a'i werthu.

Ceir amrywiaeth chwaethus o bapur wedi'i ailgylchu, a chardiau cyfarch o bob math wedi eu gwneud â llaw, gan ein criw gwaith crefft, o dan arweiniad Sara Gant.

Yn ogystal â phapur wedi'i ailgylchu a chardiau cyfarch, mae'r criw yn brysur ar hyn o bryd yn gweithio gyda chriw'r Parc Natur i ddatblygu crochenwaith arbennig Antur Waunfawr i werthu yn y siop.
  Cofiwch fod croeso i ymwelwyr geisio creu darn crochenwaith eu hunain ar yr odyn - lleolir y crochendy ger y Feithrinfa Blanhigion.
Mae dewis blasus o jamiau a siytni yn cael eu cynhyrchu gan griw'r siop hefyd. Yn ogystal â chael eu gwerthu yn Siop Bryn Pistyll, mae nifer o fusnesau yn nhref Caernarfon yn derbyn cyflenwad rheolaidd ohonynt.

Mae'r cardiau cyfarch a'r papur wedi'i ailgylchu â llaw ar gael drwy'r post - ffoniwch (01286) 650 721 neu gyrrwch E-bost.