Gwybodaeth
Adref
Cyswllt
Y Cwmni
Hanes
Bryn Pistyll
Lluniau
Gweithgareddau
Rhoddion Dodrefn
Gwasanaethau
Ailgylchu
Dodrefn
Clirio Swyddfeudd
Clirio Dodrefn Tai
Cefnogaeth
Arlwyo
Siop Bryn Pistyll
Llogi Ystafell
Ymgynghoriaeth

 

 
English

Please support us by Printing and displaying this poster at your place of work

Cynnig Eitem o Ddodrefn : 01286 674 155
Rydym bob amser yn chwilio am ddodrefn o ansawdd da y gellir eu hailddefnyddio.
Ni fydd tâl
am eu casglu. 
 
Rydym yn ddiolchgar i bob un o’n cymwynaswyr sydd wedi rhoddi eitemau, ac sy’n parhau i gynnig eitemau i’n hachos elusennol.

Rydym yn dibynnu ar haelioni pobl i allu parhau i ddarparu gwasanaeth ar gyfer pobl sydd angen eitemau am brisiau y gallant eu fforddio.    

Defnyddir y cyllid a ddaw o werthu’r eitemau a roddwyd ar gyfer datblygu ymhellach y prosiectau cymdeithasol, addysgiadol ac ym myd gwaith a weithredir gan Antur Waunfawr er budd oedolion gydag anabledd dysgu. Mae eich rhoddion o fudd i’r gymuned a’r amgylchedd….

A yw’r eitemau dodrefn yr hoffech eu cyflwyno mewn cyflwr digon da i allu eu hailddefnyddio?

Dim ond y dodrefn y buasem yn hapus i’w cael yn ein cartrefi ein hunain a werthwn ymlaen. Rhaid i’r holl eitemau fod mewn cyflwr da neu, os ydynt yn eitemau pren, y gallwn eu hatgyweirio yn ein Gweithdy Gwaith Coed.

Pan ddaw ein Tîm Casglu i’ch cartref, maent yn cadw’r hawl i wrthod eitemau nad ydynt yn addas i’w hailwerthu.

Amcanwn i ymateb i’ch galwad yn ystod yr un wythnos ag y derbyniasom eich cais. Gwelwch isod fanylion ein trefn gasglu. Oherwydd natur ein casgliadau, nid ydym yn gwarantu casglu ond rhwng oriau 9 y bore a 2.30 y pnawn ar ddiwrnod penodol.  

Daw ein rhoddion oddi wrth bobl sydd ag eitemau nad ydynt eu heisiau ac sy’n dymuno naill ai helpu y rhai sy’n llai ffodus na hwy neu maent yn poeni bod eitemau (y gellid eu defnyddio) yn cael eu taflu’n ddiangen i’r ffrwd wastraff am ddim rheswm ond eu bod yn anffasiynol.

Cesglir y rhoddion gan Antur Waunfawr gan ddefnyddio ein faniau bocs ein hunain. Disgwyliwn bod y dodrefn yn cael eu storio a’u cadw mewn cyflwr da hyd y dyddiad casglu gan fod y mwyafrif o’r eitemau a gesglir yn cael eu trosglwyddo i’r derbynnydd nesaf heb eu hadnewyddu. Ni fyddwn yn casglu dodrefn sydd wedi eu gadael y tu allan. 

Os oes gennych ddodrefn o ansawdd da ac nid ydych eu hangen mwyach, edrychwch ar y rhestr isod i weld os yw eich dodrefn chi yn addas ar gyfer Antur Waunfawr. 

IE fe hoffem eu cael!!! DRWG CALON ond dim diolch!!
Gall yr eitemau sy’n dilyn gael eu casglu ar gyfer eu hailddefnyddio Am Ddim o’ch cartref os ydynt mewn cyflwr da:
Wardrobau (dim ond y rhai sydd wedi eu cydosod)
Bwrdd a Set o gadeiriau ar gyfer bwyta (set gyflawn)
Cist drors(wedi ei chydosod)
Seti esmwyth, soffas, setiau tridarn (yn cydymffurfio â rheolau tân)
Cadeiriau breichiau a dodrefn clustogog (yn cydymffurfio â rheolau tân)
Gwelyau (fframiau pren neu fetel yn unig)
Dodrefn swyddfa gartref
Byrddau Coffi 
Silffoedd llyfrau                                                            Dodrefn o bren soled
Pianos Unionsyth 
Poptai Tanwydd Solet neu Olew Rayburn
Gwelyau Difán
Matresi
Offer trydanol                              
Nwyddau Gwyn
Dodrefn sy’n cynnwys gwydr heb ei labelu na’i
ysgythru fel gwydr “gwydn neu laminedig”
Dodrefn clustogog sydd heb label tân
Dodrefn sydd â phryfaid pren ynddynt
Dodrefn nad ydynt yn gyflawn         
Beiciau
Offer cegin
Bric-a-brac
Dillad gwely
 

Chwiliwch am y canlynol:

Label sgwâr gwyrdd wedi ei bwytho o dan y cwsin ac mae’n golygu ei fod yn cydymffurfio â rheoliadau diogelwch tân. 

Label triongl rhybuddio coch yn golygu nad yw yn cydymffurfio â Rheoliadau diogelwch tân.

Nod ‘cutan BS wedi ei ysgythru ar bob gwydr neu label ynghlwm wrth y darn dodrefn yn nodi bod y gwydr ynddo yn un laminedig neu wydn
 

Tra ein bod yn wastad yn ddiolchgar am roddion
ar ffurf dodrefn, y gallwn eu trosglwyddo i eraill,
nid ydym yn gallu casglu am ddim ddodrefn nad
ydynt mewn cyflwr da.

O safbwynt eitemau nad
ydym yn gallu eu casglu ar gyfer eu hailwerthu
gweler ein hadran Gwasanaeth Casglu Gwastraff
Swmpus ar y wefan hon

I drefnu casgliad galwch
Justin neu Garym ar
01286 674 155

Trefn Casglu:
Llun: Casglu’n lleol yng Nghaernarfon, Llanberis, Llanrug, Waunfawr a’r ardaloedd cyfagos.
Mawrth: Casglu ym Mangor a’r ardaloedd o amgylch.
Mercher: Casglu’n lleol (gweler uchod)
Iau : Ynys Môn
Gwener: ardaloedd Pen Llŷn, Porthmadog a Ffestiniog.