| Gwybodaeth |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
| Gwasanaethau |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
![]() |
Ar ddydd Mawrth, 8 Ionawr 2008, bu Jane
Davidson AC, Gweinidog dros Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai y
Cynulliad yn ymweld â chanolfan ailgylchu Caergylchu yng
Nghaernarfon er mwyn gweld y gwaith da sydd yn mynd ymlaen yn y
ganolfan.
Canolfan ailgylchu yw Caergylchu lle gall y cyhoedd ddod â deunyddiau draw i'w hailgylchu, a sydd yn didoli y deunyddiau y mae cerbydau ailgylchu'r Cyngor yn ei gasglu o ddrws i ddrws. Mae'r ganolfan a gafodd ei hagor yn swyddogol ym mis Mawrth 2007 wedi ei chynllunio ar y cyd rhwng Cyngor Gwynedd, Antur Waunfawr a Chwmni Gwastraff Môn ac Arfon. Aeth Jane Davidson AC yna ymlaen i'r Warws Werdd yng Nghaernarfon lle bu cynrychiolwyr o Antur Waunfawr yn ei thywys o amgylch y ganolfan. |
|
| Jane Davidson AC, Gweinidog dros Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai |