Gwybodaeth
Adref
Cyswllt
Y Cwmni
Hanes
Bryn Pistyll
Lluniau
Gweithgareddau
Rhoddion Dodrefn
Gwasanaethau
Ailgylchu
Dodrefn
Clirio Swyddfeudd
Clirio Dodrefn Tai
Cefnogaeth
Arlwyo
Siop Bryn Pistyll
Llogi Ystafell
Ymgynghoriaeth

 

 
English

Hanes y Cwmni

Gwynn Davies Dros y blynyddoedd sylweddolais pa mor bwysig yw gofalu fod pob aelod o gymdeithas yn cael ei ystyried fel unigolyn ac nid fel aelod o garfan arbennig o gymdeithas.  Byrdwn fy mhregeth yw mai trwy roi gwasanaeth i’w gymuned y mae person yn ennill ei blwyf fel dinesydd. Mae sicrhau hawliau yn bwysig ond mae ysgwyddo cyfrifoldeb yn filgwaith pwysicach. Mae’n ddyletswydd foesol arnom i’w gwneud yn bosibl i’n cyd-ddinasyddion, waeth faint yw eu gallu, i ysgwyddo’r cyfrifoldeb hwnnw.”
                                                                                                                                                     R. Gwynn Davies

Gweledigaeth un gŵr, R. Gwynn Davies, a chefnogaeth gref pobl ardal Waunfawr yw’r ffynhonnell a fu’n gyfrifol am sefydlu Antur Waunfawr yn 1984.  Dros ugain mlynedd yn ôl, roedd cwmni elusennol fel Antur Waunfawr, a gynigai waith go-iawn gyda phwrpas iddo i bobl gydaganableddau dysgu, yn arloesol.  Cyn hynny, derbyn gofal a gwaith mewn canolfannau arbennig oedd yn wynebu’r bobl hyn. Dangosodd Antur Waunfawr mai trwy roi cyfleoedd iddynt weithio allan yn y gymuned, a thrwy hynny wasanaethu’r gymdeithas, y byddent yn cael eu derbyn fel dinasyddion cydradd. 
Yn ystod y blynyddoedd cynnar tyrrodd pobl o bob rhan o’r byd i bentref Waunfawr i weld yr athroniaeth newydd ar waith.  Sefydlwyd mentrau tebyg yn fuan iawn mewn sawl ardal.

Erbyn heddiw mae ymwelwyr yn dal i ddod i Waunfawr, Bangor a Chaernarfon nid yn gymaint i astudio’r gwaith a’r gweithwyr, sydd wedi eu hen dderbyn, ond oherwydd yr amrywiaeth o wasanaethau sy’n cael eu darparu o’r safleoedd hynny. Dros y blynyddoedd, datblygodd busnes y Cwmni ac mae ar hyn o bryd yn cyflogi dros 70 o bobl.