|
 |
Erbyn hyn mae gan Antur
Waunfawr ddwy ar hugain o flynyddoedd o brofiad o
redeg mudiad cymunedol
ac ers rhai blynyddoedd bellach mae’r Antur yn
fenter gymdeithasol hyfyw sy’n creu incwm sylweddol
o
gytundebau a gwasanaethau.
Yn ogystal a sicrhau
cynaladwyedd y Cwmni ei hun mae’r Antur hefyd yn
awyddus i gynorthwyo mudiadau eraill ac mae hyn wedi
digwydd
mewn ffyrdd anffurfiol yn gyson dros y blynyddoedd.
Fodd bynnag erbyn hyn mae ‘na adnoddau o fewn y
Cwmni i werthu arbenigedd i gwmniau neu fentrau
eraill sy’n datblygu neu sy’n awyddus i ddatblygu yn
fwy cynaladwy a hyfyw. |
Gan fod yr Antur ei hun wedi
derbyn cymorth ymgynghorol a mentora mae gan Menna Jones a
Huw Davies brofiad o anghenion fudiadau tebyg sydd angen
cymorth amrywiol ar wahanol adegau yn hanes y mudiad.
Mae engreifftiau
diweddar o brosiectau y bu Menna a Huw yn ymwneud a
hwynt yn cynnwys:
Archwilio’r potensial o sefydlu Cynllun Dodrefn yn
Nwyfor – Mind Dwyfor
Mapio’r Sector Wirfoddol yng Ngwynedd – Menter a
Busnes i Mantell Gwynedd
Mapio’r Sector Mentrau Cymdeithasol yng Ngogledd
Cymru – Menter a Busnes i Awdurdod Datblygu Cymru
Maent hefyd a phrofiad helaeth o ddatblygu a rheoli
prosiectau cymunedol, llunio a gweinyddu ceisiadau
grant Loteri,
Amcan 1 ayb, gweithio mewn partneriaeth a chreu
ffynonellau incwm newydd.
Cliciwch yma i ddarllen Erthygyl
ANTUR WAUNFAWR – MENTER
GYMDEITHASOL – HEDDIW AC I’R DYFODOL
Gan Menna Jones
Am fwy o wybodaeth
cysylltwch a
Menna Jones
Bryn Pistyll, Waunfawr, Caernarfon
LL55 4BJ
Ffon: 01286 650721
Ebost:
menna@anturwaunfawr.org |
|