Gwybodaeth
Adref
Cyswllt
Y Cwmni
Hanes
Bryn Pistyll
Lluniau
Gweithgareddau
Rhoddion Dodrefn
Gwasanaethau
Ailgylchu
Dodrefn
Clirio Swyddfeudd
Clirio Dodrefn Tai
Cefnogaeth
Arlwyo
Siop Bryn Pistyll
Llogi Ystafell
Ymgynghoriaeth

 

 
English

 

Safle Bryn Pistyll : 01286 650 721

Lleolwyd Antur Waunfawr ar un o lecynnau prydferthaf Dyffryn Gwyrfai yn y pentref o’r un enw, yng nghol Cefn Du, Moel Eilian, Y Mynyddfawr a’r Allt Coed Mawr. Dewiswyd hen gwmwd Bryn Pistyll fel y man cychwyn ac un o brosiectau cyntaf yr Antur oedd adnewyddu Siop Bryn Pistyll, a oedd wedi cau ers blynyddoedd, ac adfeilion y bythynnod o’i chwmpas.

Heddiw mae drws Siop Bryn Pistyll ar agor i fusnes ac yn gwerthu cynnyrch yr Antur. Mae’r murddunnod unwaith eto’n gartrefi a chodwyd swyddfeydd a chaffi deniadol ar adfeilion Tyn Gerddi. Adnewyddwyd y Tŷ Capel, gan gadw ei awyrgylch a’i gymeriad, yn adeilad amlbwrpas sy’n gartref i swyddfa’r Cynllun Cartrefu ac Amgueddfa John Evans. Trowyd saith acer o dir corsiog yn safle garddio cymdeithasol a therapiwtig gan gynnwys barc natur ac gerddi hardd sy’n dod â phleser i bobl yr ardal ac i ymwelwyr.  Gan rhoi cyfle i bobl sydd ag anableddau dysgu gymryd rhan mewn tyfu amrywiaeth o blanhigion a llysiau mae'r prosiect hwn yn defnyddio gwaith garddio fel modd o wella sgiliau, iechyd a safon byw yr unigolion sy'n cymryd rhan.

Support Worker and Service user workin at the park

Bryn Pistyll Nursery

Serevice users at Bryn Pistyll park

Mae Bryn Pistyll yn cynnwys sawl atyniad poblogaidd:

  • Mae’r cynefinoedd amrywiol yn y Parc Natur yn denu pob math o fywyd gwyllt, llwybrau dirgel, coedlannau, gwaith celf anghyffredin a golygfeydd gwych o fynyddoedd Eryri.

  • Yn y Tŷ Capel, ceir arddangosfeydd am gymeriadau lleol, fel yr anturiaethwr John Evans o Waunfawr.

  • Mae’r gerddi yn cynnwys casgliad hynod ddiddorol a lliwgar o goed a blodau ac mae planhigion gwyllt sydd wedi eu tyfu ar y safle ar gael i’w prynu o’r feithrinfa.

  • Mae pob math o grefftau, cynnyrch lleol a danteithion eraill ar werth yn Siop Bryn Pistyll.

  • Bydd gweithgareddau celf a chrefft yr Antur yn cael eu hymestyn yn ddiweddarach eleni pan gaiff y Sgubor Grefftau ei hagor ym Mryn Pistyll.

  • Ar ôl treulio amser yn crwydro trwy’r parc ac yn mwynhau’r holl sydd gan Antur Waunfawr i’w gynnig, beth well na phaned a thamaid i’w fwyta yng nghaffi Blas y Waun?