Gwybodaeth
Adref
Cyswllt
Y Cwmni
Hanes
Bryn Pistyll
Lluniau
Gweithgareddau
Rhoddion Dodrefn
Gwasanaethau
Ailgylchu
Dodrefn
Clirio Swyddfeudd
Clirio Dodrefn Tai
Cefnogaeth
Arlwyo
Siop Bryn Pistyll
Llogi Ystafell
Ymgynghoriaeth

 

 
English

Gwastraff Swmpus Cartrefol : 01286 674 155
Gwasanaeth Casglu a Gwaredu Antur Waunfawr :
Er ein bod yn gwneud pob ymdrech i arbed cymaint â phosib o ddodrefn rhag mynd yn wastraff, mae llawer o’r eitemau y gofynnir i ni eu casglu yn anaddas i’w hadfer neu eu hailddefnyddio. Mae’n rhaid cael gwared ar y math hwn o eitemau yn unol â rheoliadau gwastraff cyfredol a bydd hyn yn golygu costau casglu, cludo a gwaredu/ailgylchu. 

Mae ein gwasanaeth gwaredu yn golygu y gallwn gasglu’r eitemau naill ai oddi fewn i dŷ neu oddi allan ac fel arfer o fewn tri diwrnod gwaith (yn aml ar yr union yr un diwrnod) – ac os oes brys, mae ein gwasanaeth yn sydyn, a does dim rhaid i chi symud yr eitemau i ochr y pafin i’w casglu.

Drwy ddefnyddio ein gwasanaeth gwaredu eitemau swmpus gellwch gael y sicrwydd y bydd yr holl eitemau yn cael eu gwaredu mewn modd ethegol ac yn unol â rheoliadau presennol – ac felly yn lleihau’r effaith negyddol ar yr amgylchedd lleol.    

 


Dyddiau Casglu:

Llun: Casglu’n lleol yng Nghaernarfon, Llanberis, Llanrug, Waunfawr a’r ardaloedd cyfagos.

Mawrth:
Casglu ym Mangor a’r ardaloedd o amgylch.

Mercher:
Casglu’n lleol (gweler uchod)

Iau:
Ynys Môn

Gwener: ardaloedd Pen Llŷn, Porthmadog a Ffestiniog


 


 

 

Er mwyn trefnu eu casglu ffoniwch 01286 674155 a gofyn am Justin.