Gwybodaeth
Adref
Cyswllt
Y Cwmni
Hanes
Bryn Pistyll
Lluniau
Gweithgareddau
Rhoddion Dodrefn
Gwasanaethau
Ailgylchu
Dodrefn
Clirio Swyddfeudd
Clirio Dodrefn Tai
Cefnogaeth
Arlwyo
Siop Bryn Pistyll
Llogi Ystafell
Ymgynghoriaeth

 

 
English

Gwaredu ac Ailddefnyddio Dodrefn Swyddfa :  01286 674 155

Fel elusen amgylcheddol, un o’n prif amcanion yw gwneud y defnydd gorau o ddodrefn swyddfa diangen, a’u rhwystro rhag cael eu hanfon yn ddianghenrhaid i gladdfeydd gwastraff. Fe wnewn ni sicrhau fod cartrefi newydd ar gael i’w derbyn gan ysgolion, elusennau, grwpiau cymunedol a busnesau bychain ledled Gwynedd ac Ynys Môn am fawr os nad dim o gostau. Pan na fedrwn drosglwyddo’r eitemau, byddem yn eu datgymalu yn gydrannau ar gyfer eu hailgynhyrchu neu eu hailgylchu’n amlddefnydd.

Does dim rhaid gwastraffu dodrefn swyddfa – drwy achub cymaint â phosibl o ddodrefn swyddfa rhag mynd i gladdfeydd gwastraff, gallwn gefnogi a datblygu cymunedau lleol. Mae Antur Waunfawr yn darparu agwedd gyfan gwbl hyblyg ac ymarferol at sefydliadau sy’n dymuno cael gwared ar ddodrefn diangen. Derbyniwn unrhyw ddodrefn swyddfa mewn unrhyw gyflwr – yn syml trosglwyddwch y broblem i ni, a gadewch i ni ailddefnyddio neu ailgylchu eich eitemau swyddfa mewn modd sy’n amgylcheddol gyfeillgar ac yn gymdeithasol gyfrifol.

Manteision:
Fe fyddech yn derbyn gwasanaeth proffesiynol a byddem yn ymdrechu i achub cymaint â phosibl o ddodrefn swyddfa rhag mynd i gladdfeydd gwastraff.                                                                                                   
Gallwn eich cynorthwyo i gyflawni eich nod o gael gwared â’ch dodrefn. 
Rydym yn darparu ystod eang o wasanaethau, y cyfan ohonynt wedi eu dylunio i gyfannu’n llyfn gynlluniau a graddfeydd amser eich prosiect. Yn ychwanegol, mae cydweithio â ni yn creu swyddi a chyfleoedd hyfforddiant ar gyfer pobl gyda anableddau dysgu a phobl sy’n anactif yn economaidd.   

 
Am bob desg a drosglwyddwn i sefydliadau di-elw, rydym yn achub tua 110kg o wastraff potensial rhag mynd i gladdfeydd.
Hyd yn hyn, mae tua 3,000 tunnell fetrig o ddodrefn a deunyddiau eraill wedi eu hailgylchu gan Antur Waunfawr.

Mae dros 3,000 o gyrff ac unigolyn cyhoeddus, elusennol, cymunedol a phreifat wedi arbed miloedd o bunnoedd drwy gael dodrefn oddi wrthym ni.

Mae ein dull o drin dodrefn a defnyddiau ailgylchu eraill yn ofalus wedi creu dros 20 o swyddi, ac wedi darparu cyfleoedd gwaith ac hyfforddiant ar gyfer 17 o oedolion gyda anableddau dysgu. Hyd yn hyn rydym wedi cefnogi 32 unigolyn sy’n economaidd anactif drwy ein rhaglen Marchnad Lafur Canolradd. Byddai scrapio dodrefn yn golygu na fuasem wedi creu unrhyw un o’r uchod.

Mae ein gwasanaeth ni yn cynnig i fusnesau y cyfle i wella eu perfformiad amgylcheddol ac arbed costau tra’n cynnig manteision cymdeithasol go iawn.

Sut yr ydym ni yn gweithredu:
Byddem yn neilltuo un person sydd wedi ei enwebu i fod yn gyfrifol am reoli pob agwedd o’r gwasanaeth y cytunwn i’w ddarparu. Bydd ein warws yn barod i ddadlwytho eich dodrefn yn ôl eich amserlen symud chi, wrth eich adael chi'n rhydd i ganolbwyntio ar reoli agweddau eraill eich gwaith.

Ar hyn o bryd mae ein fflyd ni o faniau tail lift box  7.5 a 3.5 tunnell fetrig yn casglu dodrefn a deunyddiau ailgylchu yn rheolaidd ledled Gogledd Orllewin Cymru. Maent yn gallu casglu unrhyw faint o ddeunydd sydd angen.

Beth yw cost ailgylchu/ailddefnyddio a chael gwared â dodrefn swyddfa?
I sefydliadau a leolir yng Ngwynedd fe godir £50 nominal +TAW am nwyddau a gesglir mewn fan godi 3.5 tunnell fetrig, o leoliad dynodedig. Mae’n gallu cludo 2.5 gwaith yn fwy na’r sgip safonol. Os na fyddwch yn gallu mynd â’r holl eitemau yr ydych am gael gwared arnynt i fan canolog dynodedig lle gellir eu casglu, gallwn ni eu casglu “in situ” am gost ychwanegol o £14.50 yr awr.  

Am fanylion pellach cysylltwch â : Haydn@anturwaunfawr.org : 01286 674 155