|

|
Storfa Ddodrefn
Warws Werdd : 01286 674 155 |
 |
Ar agor : Llun-Gwen = 9yb i 4yp:
Iau = 9yb i 6yh :
Sadwrn = 10yb i 1yp :
Rydym ar agor BOB Gŵyl Banc..
Maes parcio cyfleus i gwsmeriaid.
Gwasanaeth danfon lleol ar gael am gyn lleied â
£5.00.
Gan fod gennym dros gannoedd o eitemau mewn stoc,
mae’n werth ymweld â ni. |
 |
Sefydlwyd y Warws Werdd er mwyn darparu manteision
amgylcheddol a chymdeithasol; a gwnawn hyn drwy gynhyrchu
cyllid a fydd yn fodd o ddatblygu mwy o gyfleoedd gwaith ac
hyfforddiant ar gyfer pobl gydag anabledd dysgu a thrwy
arbed eitemau o ddodrefn o gladdfeydd gwastraff.
Mae ein
stoc o ddodrefn yn newid yn wythnosol ac
rydym ar agor ar gyfer pawb.
Yr hyn a welwch yw’r hyn a brynwch. O safbwynt unrhyw
eitem gellwch fynd â hi gartref
heddiw.
Rydym yn gwerthu ystod mor eang â phosibl o
ddodrefn ail-law,
yn cynnwys
dodrefn swyddfa, llofftydd, lolfa, cegin, stafell folchi a
stafell haul. Fe gawsom y math hwn o stoc drwy roddion hael
unigolion a sefydliadau ledled Gwynedd ac Ynys Môn, pobl
sy’n cefnogi’r gwaith a wnawn er lles yr amgylchedd ac
unigolion gydag anabledd dysgu.
Rydym hefyd yn gwerthu dau fath o
Ddodrefn Adferedig.
Mae’r math cyntaf o ddodrefn adferedig yr ydym yn ei werthu
yn ddodrefn hynafol a chasgladwy “retro” ac mae gennym bob
amser ddetholiad o ddodrefn derw, mahogani a phinwydd o
ddechrau i ganol yr 20fed ganrif a darnau “retro” gan Ercol,
Gplan a Stag o 1950au i’r 1970au.
|
Mae’r ffynhonnell fwyaf o ddodrefn gwastraff yn y DU yn dod
nid o gartrefi, ond oddi wrth adwerthwyr a
gweithgynhyrchwyr dodrefn, ac er mwyn lleihau swm y math hwn
o ddodrefn rhag mynd i gladdfeydd gwastraff, rydym yn eu
hadfer ac yn eu gwerthu. Bob amser yn y Warws Werdd, mae
gennym ddodrefn llofftydd a ddifrodwyd wrth eu cludo,
dodrefn ni chynhyrchir mwyach, stoc i’w glirio a stoc a
ddychwelwyd gan y cwsmer a stoc a gawn o nifer o adwerthwyr
a gweithgynhyrchwyr dodrefn mwyaf y DU.
Rydym yn gwerthu y dodrefn hyn,
wedi
eu hatgyweirio a’u cydosod
am lai na 30% i 60% o bris adwerthu gwreiddiol y stryd fawr.
Gall y stoc hwn gynnwys setiau tridarn lledr cyfoes, byrddau
a chadeiriau bwyta, gwelyau maint brenin, dwbl, seng a bync,
wardrobau pinwydd, cist ddroriau, byrddau coffi, unedau
adloniant, byrddau ochr, bocsys plancedi ac amrywiaeth o
unedau ar gyfer storio
|