Dafydd Emrys yn ‘Jac’ go iawn!

 

Cafodd Dafydd Emrys, un o weithwyr Caergylchu dipyn o sioc ddydd Mercher diwethaf pan ddaeth Ffion Jones, Arena Network draw i Gaergylchu.  Mae Ffion wedi bod yn rhoi cyngor i’r Antur ar ddatblygu sustem Draig Werdd i brofi effeithlonrwydd amgylcheddol.

 

Arwahan i’r ochr waith, mae Ffion hefyd yn chwaer i Owain Tudur Jones, chwaraewr pel-droed Abertawe a Chymru.  O wybod fod Dafydd Emrys yn gefnogwr brwd o’r ‘Jacs’ fe wnaeth Ffion gysylltu a’i brawd i ofyn am ei lofnod.  Roedd staff yr Antur wedi disgwyl rhaglen, neu efallai llun wedi’i arwyddo fel syrpreis i Dafydd, ond ‘roedd pawb wedi’u syfrdanu o weld fod Owain wedi llofnodi crys go iawn Abertawe, un a wisgwyd ganddo ef mewn un o’r gemau llwyddianus diwedd tymor yma!

 

Bydd Dafydd nawr yn cael fframio’r crys a’i osod yn amlwg iawn ar wal ei gartref.  Diolch yn fawr iawn i Ffion ac Owain, a phob hwyl i Abertawe ar ddechrau tymor newydd.