Gwybodaeth
Adref
Cyswllt
Y Cwmni
Hanes
Bryn Pistyll
Lluniau
Gweithgareddau
Rhoddion Dodrefn
Gwasanaethau
Ailgylchu
Dodrefn
Clirio Swyddfeudd
Clirio Dodrefn Tai
Cefnogaeth
Arlwyo
Siop Bryn Pistyll
Llogi Ystafell
Ymgynghoriaeth

 

 
English

Gwasanaethau Cefnogi Phobl : 01286 650 492

CEFNDIR Y CYNLLUN   
Sefydlwyd y Cynllun Cartrefu -sy’n rhan o Antur Waunfawr- yn 1996 i roi cefnogaeth breswyl i bobl gydag anableddau dysgu yn y gymuned leol.   Ar hyn o bryd mae’r Cynllun yn rhoi gwasanaeth i niferoedd o oedolion gydag anableddau dysgu. Mae hyn yn cynnwys gwasanaeth dydd, gwasanaeth hamdden a gwasanaeth gwyliau. Bwriad y Cynllun yw sicrhau fod defnyddwyr y gwasanaeth yn derbyn cefnogaeth o’r safon uchaf bosibl, yn eu cymuned ac yn unol a dyheadau. 

ARIANNU'R CYNLLUN: Derbynia’r Cynllun arian o 3 gwahanol ffynhonnell: 

Uned Cefnogi Pobl - Cyngor Gwynedd Rhaglen Llywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol yw Cefnogi Pobl sy’n helpu i ariannu gwasanaethau cefnogi ar gyfer pobl a ystyriant yn fregus. Mae’r gefnogaeth a gynigir yn helpu pobl i gael, ac i gadw eu cartrefi eu hunain.

Gofal yn y Gymuned - Cyngor Gwynedd Adran o’r Cyngor sy’n ceisio helpu pobl i sicrhau gwell ffordd o fyw - fel arfer i barhau i fyw gartref ac i dderbyn help a chefnogaeth i wneud hyn.

Cronfa Byw yn Annibynnol (Independent Living Fund) -Mae’n darparu cymorth ariannol â chostau gofal personol a/neu gymorth yn y tŷ i alluogi pobl sydd angen llawer iawn o gefnogaeth i fyw yn eu cartrefi eu hunain yn hytrach na bod mewn gofal preswyl.

Y CARTREFI:
Mae Cynllun yn gyfrifol am nifer o dai, ac mae pob un o’r defnyddwyr yn denantiaid llawn o’u cartref. Bydd pob unigolyn yn cael y cyfle i gymryd rhan lawn i redeg eu cartref, mae hyn yn cynnwys;

Cefnogaeth i denantiaid gyda cheisiadau budd-daliadau tai a gwariant tal gwasanaeth.

Cefnogaeth i siopa er mwyn goginio bwydydd maethlon trwy ddilyn canllawiau 'Bwyta'n Iach' y cwmni, sydd yn gwneud defnydd o fusnesau lleol.

Hyfforddiant a chefnogaeth i ddatblygu sgiliau glendid personol a sgiliau sylfaenol er mwyn cymryd gofal llawn o'r cartref.

Nodir fod y cwmni drwy hyfforddiant a chefnogaeth yn cefnogi'r tenantiaid i ddefnyddio cynnyrch gwyrdd ac yn
ailgylchu nwyddau o fewn eu tai.)

Y GWASANAETHAU:
Gallwn gynnig y gwasanaethau canlynol:

Gwasanaeth Dydd:  Gwasanaeth dydd yn y safleodd.gwahanol Antur Waunfawr yn unol â gofynion a dewisiadau'r unigolyn. Yn ogystal y gallwn gynnig cefnogaeth o gartref yr unigolyn, neu wasanaeth cymunedol. 

Gwasanaeth Hamdden:  Gwasanaeth hamdden sy’n dilyn canllawiau ‘Cadw’n Heini,’ teithiau cerdded, beicio, nofio, mynd i’r ganolfan hamdden.

Gweithgareddau grŵp: Mae’r Cynllun hefyd yn credu’r gryf y dylai’r defnyddwyr gael yr hawl i gyfarfod yn rheolaidd gyda’u ffrindiau. Ac felly mi fydd y Cynllun yn trefnu gweithgareddau mewn grŵp e.e. teithiau cerdded, helfa drysor, noson bowlio ayb.

Gwasanaeth Gwyliau:  Mae’r Cynllun yn credu’n gryf y dylai pob un o ddefnyddwyr y Cynllun gael gwyliau blynyddol. Gall y Cynllun Cartrefu drefnu gwyliau at flas yr unigolyn a gofalu fod staff addas ar gael i gefnogi'r defnyddwyr ar wyliau ym Mhrydain neu dramor, gwyliau ar drên, bws, cwch neu drwy hedfan. O bryd i’w gilydd mi fydd y Cynllun hefyd yn trefnu trip dramor i holl ddefnyddwyr y Cynllun gyda’i gilydd.

Hyfforddiant: Yn ogystal â threfnu hyfforddiant hanfodol i’n staff ar bopeth yn y maes: Cymorth Cyntaf, Diffodd Tan, Codi Pwysau ayb. Mae’r Cynllun yn trefnu cyrsiau ar gyfer y defnyddwyr e.e. cwrs cyfrifiaduron a sgiliau sylfaenol.

HAWLIAU Y DEFNYDDWYR

        Mae gan y defnyddwyr yr hawl i weld unrhyw wybodaeth a ysgrifennir amdanynt.

        Mae gan y defnyddwyr yr hawl i ddefnyddio unrhyw iaith o‘u dewis.

        Mae gan y defnyddwyr yr hawl i gyfrinachedd.

        Mae gan y defnyddwyr yr hawl i wneud penderfyniadau personol.

        Mae gan y defnyddwyr yr hawl i wasanaeth o'r safon uchaf.

        Mae gan y defnyddwyr yr hawl i wneud cwyn am y gwasanaeth a dderbynnir.

        Mae gan y defnyddwyr yr hawl i fod yn  bresennol ym mhob cyfarfod ac arolwg, sydd yn ymwneud â hwy.

        Mae gan y defnyddwyr yr hawl i gyfryngwr  - os y dymunant.

        Mae gan y defnyddwyr yr hawl i fynegi barn am aelodau o'r staff y byddant yn cydweithio â hwy.

        Mae gan y defnyddwyr yr hawl i ffurfio perthynas ag eraill, ac i fanteisio ar addysg rhyw os y dymunant

        Mae gan y defnyddwyr yr hawl i wyliau blynyddol.

 MAE GAN BOB UN O DDEFNYDDWYR Y GWASANAETH YR HAWL I GYMRYD RHAN LAWN YN Y GYMUNED
I holi am gost y gwasanaethau yma, cludiant a gwasanaeth cysgu mewn cysylltwch gyda:


Cynllun Cartrefu
Antur Waunfawr,
Bryn Pistyll,
Waunfawr,
Caernarfon,
Gwynedd
LL55 4BJ
Ffon: 01286 650492/650721 : Facs: 01286 650059 
Ebost: stephen@anturwaunfawr.org