Gwybodaeth
Adref
Cyswllt
Y Cwmni
Hanes
Bryn Pistyll
Lluniau
Gweithgareddau
Rhoddion Dodrefn
Gwasanaethau
Ailgylchu
Dodrefn
Clirio Swyddfeydd
Clirio Dodrefn Tai
Cefnogaeth
Arlwyo
Siop Bryn Pistyll
Llogi Ystafell
Ymgynghoriaeth

 

 
English

Pwy a beth yw'r Antur?

Cwmni elusennol cymunedol ydi Antur Waunfawr. Cafodd ei sefydlu ym 1984 i roi cyfleoedd gwaith a hyfforddiant o safon uchel i bobl gydag anableddau dysgu er mwyn eu galluogi i wasanaethu cymdeithas. Yn ogystal â chwarae rôl gymunedol bwysig, mae hefyd yn cyfrannu’n sylweddol at adfywio’r economi lleol.

Dros y blynyddoedd, datblygodd busnes y Cwmni ac mae ar hyn o bryd yn cyflogi dros 70 o bobl ac wedi ei leoli ar dri safle, sef:

  • Safle Bryn Pistyll – safle cychwynnol yr Antur yng nghanol pentref Waunfawr

  • Warws Werdd – Canolfan ailddefnyddio dodrefn ar Stad Cibyn, Caernarfon

  • Caergylchu – Safle ailgylchu masnachol a cymunedol ar Stad Cibyn, Caernarfon

Mae gweithgareddau cymunedol a gwasanaethau busnes Antur Waunfawr yn amrywiol iawn:

Safle Bryn Pistyll, Waunfawr

Atyniad poblogaidd i’r gymuned leol ac ymwelwyr gyda pharc natur, gerddi a meithrinfa blanhigion, amgueddfa gymunedol, siop grefftau a chynnyrch cartref a chaffi a pharc chwarae i blant.
Cynllun Cartrefu
Cynllun sy’n helpu oedolion gydag anableddau dysgu i fyw’n annibynnol trwy gynnig hyfforddiant, cefnogaeth 24 awr y dydd, cyfleoedd therapiwtig a darparu gweithgareddau hamdden.
Cynllun Ailgylchu Cymunedol
Casglu gwydr, caniau a phapur o safleoedd mewn pentrefi ar draws Gwynedd.
Cynllun Ailgylchu Masnachol
Darparu gwasanaeth casglu papur, cetris, caniau a llarpio dogfennau cyfrinachol i fusnesau a sefydliadau lleol.
Warws Werdd
Canolfan newydd sbon ar gyfer cynllun casglu, ailgylchu ac ailddefnyddio dodrefn. Mae’r ganolfan yn cynnwys siop a man arddangos, gweithdy ac ystafell gyfarfod ac yn darparu pob math o drysorau cudd am brisiau rhesymol.