Gwybodaeth
Adref
Cyswllt
Y Cwmni
Hanes
Bryn Pistyll
Lluniau
Gweithgareddau
Rhoddion Dodrefn
Gwasanaethau
Ailgylchu
Dodrefn
Clirio Swyddfeydd
Clirio Dodrefn Tai
Cefnogaeth
Arlwyo
Siop Bryn Pistyll
Llogi Ystafell
Ymgynghoriaeth

 

 
English

Gwasanaeth Ailgylchu Cymunedol a Masnachol: 01286 669 330

Sefydlwyd Adran Ailgylchu Antur Waunfawr ym 1994 ar safle Dinas, Llanwnda gan gyflogi 4 o bobl. 
Tyfodd yr Adran yn gyflym iawn yn sgil ennill cytundeb ailgylchu cymunedol ym 1996 a symud i safle Depo West End ym Mangor.  Yn Mawrth 2007 gyda lawnsiad cynllun ailgylchu strategol fydd rhaid ir Adran symud eto, y tro hwn i safle ar stad ddiwidianol Cibyn yn Caernarfon, or enw Caergylchu.

Mae Caergylchu yn gynllun sy’n anelu i leihau gwastraff, ac annog ail-ddefnyddio ac ailgylchu o fewn ardal Arfon yn bennaf.  Mae’n bartneriaeth rhwng Cyngor Gwynedd, Cwmni Gwastraff Môn ac Arfon (CGMA) ac Antur Waunfawr Ailgylchu (AWA).

Ailgylchu ar gyfer Swyddfeydd: Prisiau o £200 + TAW y flwyddyn    
Gyda mwy a mwy o fusnesau yn gosod targedau lleihau gwastraff ac ailgylchu, mae’n bwysicach nag erioed i ddarganfod cwmni ailgylchu gwastraff sy’n hyblyg ac yn sensitif i’r amgylchedd. Mae Antur Waunfawr Ailgylchu, fel ailgylchwr papur pwysig a darparwr gwasanaethau y gellir dibynnu arnynt , hefyd yn gallu cynnig gwasanaeth dibynadwy a chyfleus ar gyfer symud gwastraff arferol swyddfeydd yn cynnwys papur,caniau a chetris. Lle bynnag y mae’n bosibl, ailgylchir y gwastraff hwn a gellir cyflwyno tystysgrifau er mwyn i chi allu dangos yn glir i’r staff a rheolwyr sut y mae eich mentrau ailgylchu yn y swyddfa o fuddd i’r amgylchedd.

Drwy ddewis ein gwasanaeth byddwn yn ailgylchu bron bob math o wastraff arferol swyddfeydd gan gynnwys:  

Papur – cyfrinachol a ddim yn gyfrinachol  
Mae un dunnell fetrig o bapur wedi ei ailgylchu yn arbed 17 coeden
Caniau 
Mae gwneud un can alwminiwm o ddefnyddiau crai yn defnyddio’r un swm o egni ag sydd ei angen i ailgylchu 20
Cetris  
Pe buasai cetris yn cael eu stacio o ben i ben, buasai’r cetris a deflir ymaith mewn un flwyddyn yn ymestyn dros bellter 24,000 milltir
(digon i amgylchynu’r ddaear)

Rhwygo Data Cyfrinachol: Prisiau o £4 +TAW y bag.  
Yn y dwylo anghywir, gall rhywbeth mor gyffredin â phapur â phennawd iddo gael ei ddefnyddio i gael at ddata cyfrinachol neu i ddwyn gwybodaeth eich busnes. Mae mor syml â hynny.

Mae gennych ddyletswydd gyfreithiol o dan Ddeddf Gwarchod Data i warchod y data cyfrinachol hyn yn effeithiol ac mae’r gyfraith yn gorchymyn hyn.

Y ffordd symlaf o sicrhau y gellir cael gwared â gwastraff gyfrinachol mewn modd rheoledig a chydymffurfiol yw defnyddio cwmni arbenigol sy’n dinistrio data cyfrinachol. Mae Antur Waunfawr Ailgylchu yn darparu gwasanaeth casglu a malu cyfrinachol diogel. Pan fydd angen dinistrio dogfennau, gellwch ddibynnu ar Antur Waunfawr Ailgylchu i gael gwared yn ddiogel â’ch gwastraff cyfrinachol.  

Mewn amgylchedd busnes sy’n gynyddol gystadleuol a deddfwriaethol, mae cael gwared â gwybodaeth sensitif mewn modd diogel yn achos pryder cynyddol. Mae malu dogfennau yn dileu‘r risg o wastraff cyfrinachol yn glanio mewn dwylo anghywir ac yn gwarantu bod gwybodaeth yn cael ei llwyr ddinistrio mewn amgylchedd hynod o ddiogel.

Cynlluniwyd ein gwasanaeth llarpio dogfennau yn benodol ar gyfer cynnig ateb syml a dibynadwy i gyfarfod â’ch anghenion, pa un yn un swmpgliriad neu yn gasgliad rheolaidd rhestredig.

Yn Antur Waunfawr Ailgylchu credwn fod diogelwch yn dechrau o fewn eich adeiladau a bod cadw gwastraff cyfrinachol yn holl bwysig. Am y rheswm hwn, mae Antur Waunfawr Ailgylchu yn cynnig amrediad o unedau ar gyfer casglu a storio gwastraff ar eich safle.

Mae Antur Waunfawr Ailgylchu yn darparu gwasanaeth hyblyg sydd wedi ei deilwra i gyfarfod â gofynion penodol ei gwsmeriaid; 

  • Fe gesglir y deunyddiau yn uniongyrchol o eiddo’r cwsmeriaid. Rydym yn casglu’n gyson bob wythnos o swyddfeydd ar draws Gogledd Cymru. Pa un a ydych angen casglu’n wythnosol , neu bob pythefnos neu’n fisol, neu os ydych am gael symud y defnyddiau ar un tro gallwn ddarparu ar eich cyfer.
  • Gellir darparu sachau ar gyfer  cwsmeriaid os oes angen. 
  • Hefyd os oes angen gellir cyflenwi tystysgrif i brofi'r dinistr.

Mae’r gwasanaeth a ddarperir gan Antur Waunfawr Ailgylchu yn un diogel:
Gwneir Archwiliadau cyson a thrwyadl gyda thrwydded gyfresol o ddinistr.
Mae cymeriad pob un o weithwyr Antur Waunfawr Ailgylchu wedi ei wirio o safbwynt diogelwch.
Mae deunyddiau yn cael eu llarpio i 15mm. 
Mae ein ffatri brosesu o fewn datblygiad diogel gyda diogelwch ddydd a nos.  

Mae’r holl bapur llarpiedig yn cael ei wneud yn fyrnau, yn barod i’w gyrru i’r melinau papur ar gyfer ailgylchu, lle y’u defnyddir i weithgynhyrchu amrywiaeth eang o gynhyrchion o bapur sidan i bapur o ansawdd uchel. 

Pam ailgylchu?  

Mae’n ystadegyn brawychus yr amcangyfrif fod busnesau y DG yn unig wedi cynhyrchu dros 80 miliwn tunnell fetrig o wastraff yn 2006. Yn ôl Asiantaeth yr Amgylchedd, mae llai na 40% o’r gwastraff hwn yn cael ei ailgylchu a thros 35 miliwn tunnell fetrig yn mynd yn syth i gladdfeydd sbwriel.

Eich proffidioldeb  
Mae cael gwared â gwastraff yn awr yn costio i ddiwydiant y DG hyd at 5% o drosiant blynyddol; buasai gweithredu rhaglen ailgylchu gynhwysfawr yn arbed hyd at £1000 y gweithiwr i’ch cwmni.
Eich rhwymedigaeth gyfreithiol  
Mae “Cyfrifoldeb y Cynhyrchydd” yn egwyddor allweddol yn yr amgylchedd busnes presennol ac mae nifer o fusnesau  yn awr yn rhwym yn gyfreithiol i gyflawni targedau ailgylchu a osodir gan ddeddfwriaeth megis Rheoliadau Pacedu Gwastraff 2005 a Deddf Gwarchod Data 1998.
Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol  
rwy fod mwy a mwy o dreulwyr yn galw am nwyddau o ffynonellau cynaliadwy ac yn archwilio cymwysterau ecolegol busnesau, mae’n talu i ailgylchu

Manylion Cyswllt: Dafydd Arfon Jones  
Antur Waunfawr Ailgylchu
Caergylchu
Stad Ddiwidiannol Cibyn
Caernarfon
Gwynedd.
LL55 2BD
01286 669 330

dafydd@anturwaunfawr.org