Gwybodaeth
Adref
Cyswllt
Y Cwmni
Hanes
Bryn Pistyll
Lluniau
Gweithgareddau
Rhoddion Dodrefn
Gwasanaethau
Ailgylchu
Dodrefn
Clirio Swyddfeudd
Clirio Dodrefn Tai
Cefnogaeth
Arlwyo
Siop Bryn Pistyll
Llogi Ystafell
Ymgynghoriaeth

 

 
English

Gwasanaeth Casglu ac Ailgylchu Dillad a Defnydd  01286 674 155


cliciwch ar y llun uchol i lawrlwytho ein taflen gwybodaeth






Cefnogwch ni gan lawrlwtho, printio ac dangos yr taflen uchod

Mae'r gwasanaeth newydd yma wedi cael ei lawnsio gan yr Antur yn ddiweddar.  O hyn ymlaen mae unigolion a mudiadau yn gallu trefnu i'r Antur ddod a casgladiau dillad a defnydd or cartref yw ailgylchu.  I unigolion ac mudiadau sydd eisiau, gallent hefyd ddod a'i defnyddiau a dillad i'r warws werdd eu hunain. Ni fyddwn yn cyfyngu ar y nifer o sachau.  Dewch a cyn gymaint a medrwch...

Gan roddi eich hen ddillad i Antur Waunfawr nid yn unig byddwch yn cyfrannu at yr amgylchedd a’r economi leol ond hefyd byddwch yn cefnogi gwasanaethau gwaith a hyforddiant mae’r Antur yn rhedeg er mantais pobl lleol gydag anableddau dysgu.

Anfonir dros miliwn tunnell fetrig o decstiliau i safleoedd tirlenwi phob blwyddyn. Dillad yw rhwng 400,000 a 700,000 o’r tunelli hynny, a gallen ni ailgylchu o leiaf 85% ohonyn nhw. 

Mae hen ddillad sy'n cyrraedd Antur Waunfawr yn cael eu hail-wehyddu'n ddefnydd newydd neu eu hailgylchu i'w defnyddio fel deunyddiau llenwi neu glytiau glanhau.

Anfonir miloedd o dunelli o hen ddillad i safleoedd tirlenwi yng Nghymru bob blwyddyn. Mae tecstiliau'n creu
problemau dyrys mewn safleoedd tirlenwi oherwydd nad yw deunyddiau synthetig yn dadelfennu tra bod
deunyddiau naturiol fel cotwm yn pydru ac yn cynhyrchu methan sy'n cyfrannu at gynhesu byd-eang.

Pe bai pob unigolyn yn prynu un dilledyn wedi'i ailgylchu bob blwyddyn byddai hynny'n arbed ar gyfartaledd 371 miliwn galwyn o ddwr a 480 tunnell fetrig o liwiau cemegol.

Gallwch chi gyfrannu trwy chwilio'ch cwpwrdd a didoli'r pethau na fyddwch chi'n eu gwisgo.  Efallai fod gyda chi ffrog sy'n rhy fach neu grys a brynoch chi'n fyrbwyll. Os nad ydych yn ei wisgo fo… Ailgylchwch o

Gallwch rhoi dillad a defnydd mewn cyflwr da, medrwch hefyd rhoi dillad sydd wedi hen dreulio, am fod modd eu ailgylchu i wneud dillad a defnydd newydd sbon. 
Cysylltwch gyda Antur Waunfawr ar
01286 674 155 i drefnu dyddiad cyfleus i gasglu eich dillad ddi-angen.

Dyddiau Casglu:

Llun: Casglu’n lleol yng Nghaernarfon, Llanberis, Llanrug, Waunfawr a’r ardaloedd cyfagos.

Mawrth:
Casglu ym Mangor a’r ardaloedd o amgylch.

Mercher:
Casglu’n lleol (gweler uchod)

Iau:
Ynys Môn

Gwener:
ardaloedd Pen Llŷn a Porthmadog