Gweithgareddau
Fydd gweithgareddau
amrywiol addas i’r holl deulu yn
digwydd drwy'r dydd – stori, sesiwn
gelf, ceffyl a throl, BBQ, caffi,
cerddoriaeth byw trwy’r prynhawn,
Doniau Cudd, Band Ieuenctid Llanrug
a Dafydd Iwan.
Dau ddigwyddiad mawr y diwrnod fydd
seremoni agor gardd Goffa Gwynn
Davies (sylfaenydd Antur Waunfawr),
ac ail lawnsio Siop Bryn Pistyll yng
nghwmni Alun Fred Gweinidog
Treftadiaeth.
Gwyl Gerddorol
Flwyddyn yma bydd Gwyl Fai yn cynnal
cyfres o sioeau gan rai o fandiau
mwya cyfoes Cymru. Yn gorffen y
noson ar y brif lwyfan fyd Sibrydion,
band sydd wedi ennill llwyddiant yn
ddiweddar tu hwnt i Gymru. Yn arwain
y llwyfan acwstig fydd Gwibdaith Hen
Fran, grwp sydd wedi ennill
poblogrwydd eang gyda'u caneuon
bachog a direidus.
Gwyl Werdd